Adolygiad
2 – 10 Mai 2025Prisiau
Dewiswch Eich Pris: £16 - £24 (Rhagddangosiadau Talwch Beth Fynnwch £5 - £20). O Dan 25 Hanner Pris. Gostyngiadau £2 i ffwrdd.
Gwybodaeth Bellach
- Gofod: Y Brif Theatr
- Iaith: Saesneg
Mae’r cynhyrchiad hwn yn cynnwys iaith gref a chyfeiriadau at alar a marwolaeth.
- Wed 7 May - 7:00pm BSL interpreted
- Sat 10 May - 2:30pm Audio Described
Rhagfyr 2018, mae Banksy yn cyflwyno anrheg Nadolig unigryw i Bort Talbot pan mae un o’i furluniau yn ymddangos ar garej gweithiwr dur lleol gan roi sylw rhyngwladol i’r dref. 2024, mae Port Talbot yn y newyddion unwaith eto pan mae diwedd cynhyrchu dur drwy ffwrnais chwyth, diwydiant sydd mor hanfodol i’r dref, yn creu cyfnod newydd o ansicrwydd.
Yn yr wythnosau ar ôl i waith celf Banksy ymddangos aeth Paul Jenkins a Tracy Harris o gwmni Theatr3 i siarad â phobl y dref. Fe gychwynnodd eu prosiect fel casgliad o ymatebion i’r Banksy cyntaf i ymddangos yng Nghymru, a dros chwe blynedd fe ddatblygodd yn bortread o gymuned ac yn deyrnged i’w hysbryd a’i gwytnwch. Nawr, daw lleisiau’r gymuned honno i flaen y llwyfan, gyda chast o actorion proffesiynol yn adrodd eu geiriau.
Mae Port Talbot Gotta Banksy yn ddrama newydd bwysig am bobl, pŵer a chelfyddyd stryd. Mae’n ddathliad o gryfder cymunedau i wrthsefyll holl heriau bywyd. Ymunwch â ni wrth i bobl Port Talbot rannu eu stori nhw yn eu geiriau eu hunain, yn y ddrama bwerus, deimladwy gair-am-air hon.
Perfformir y ddrama yn y Plaza, Port Talbot; Theatr y Grand, Abertawe; Theatr y Torch Aberdaugleddau a Thŷ Pawb, Wrecsam yn dilyn cyfnod yn Theatr y Sherman.
Cyfarwyddwyd gan Paul Jenkins
Cefnogir gan National Theatre Studio a gyda chyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru