Polly Amorous a Esther Parade, Theatr y Sherman and Pleasance

Polly & Esther

Comedi Theatr

Adolygiad

18 - 20 Gor 2024
8.30yh

Prisiau

£12.50

Gwybodaeth Bellach

  • Gofod: Stiwdio
  • Iaith: Saesneg
Gwybodaeth Pwysig

Mae’r perfformiad yma yn cynnwys iaith gref, goleuadau sy’n fflachio, synau uchel a niwl.

Cabaret drag camp a chynhyrfus wedi’i ysgrifennu a’i berfformio gan fam a merch eiconig o Gymru, Polly Amorous ac Esther Parade.

Ymunwch â Polly ac Esther wrth iddynt lywio teulu dewisol, llencyndod, a brandiau anfad o iechyd perfedd probiotig drwy ddefnydd iogwrt braster isel – i gyd wrth weini c*nt rhwng-cenedlaethau!

Dathliad o hunanfynegiant, cyfuniad cwiar a llawen o ddrag, sioe gerdd a chabaret, a stori am ddod o hyd i deulu mewn mannau annhebygol.

“Taswn i’n adolygydd byddwn i’n rhoi chwe seren i hwn!” (Polly Amorous)
“Drag? Yn y Fringe? Dyma dorri tir newydd!” (Esther Parade)

Ysgrifennwyd gan Polly Amorous, Esther Parade, a Nerida Bradley, perfformiwyd gan Polly Amorous ac Esther Parade.

Polly & Esther yn Ffrinj Caeredin am 31 Gorffennaf – 26 o Awst
Pleasance Courtyard am 19.40
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r perfformiadau yng Nghaeredin cliciwch fan hyn.

Cyflwynir gan y Pleasance a Theatr y Sherman fel rhan o raglen Partneriaethau Cenedlaethol Caeredin.Cefnogir gan Gyngor Celfyddydau Cymru/Celfyddydau Rhyngwladol Cymru drwy Gronfa Cymru yng Nghaeredin.