HWYL I'R TEULU OLL - YN RHAD AC AM DDIM
Ymunwch â ni am benwythnos llawn o hwyl a sbri wrth i ni barhau a’n dathliadau hanner canmlwyddiant pan fydd ein ffrindiau o sioe lwyfan Horrible Histories yn dychwelyd i’n gweld ni. Bydd ein penwythnos, sydd ddim mor hyll â hynny, yn dod ag hwyl i hanes.
Oeddech chi’n gwybod? Y Sherman oedd y theatr gyntaf i lwyfannu addasiad o lyfrau poblogaidd Horrible Histories.
Mae’r gweithgareddau ar gyfer plant 5-14 oed yn cynnwys:
– Paentiwch eich wyneb fel Celt a gwisgwch eich glaslys â balchder
– Ewch ar daith tu ôl i’r llen o amgylch y Sherman
– Addurnwch Goron y Tuduriaid
– Crefftio Silwét Cameo Fictoraidd
– Tynnwch hunlun hanesyddol yn ein bwth lluniau gan ddewis gwisg ffansi o’n cwpwrdd dillad, neu dewch wedi gwisgo fel eich hoff ‘Barmy Briton’ er mwyn ennill gwobr!
– Dewch i liwio’r Tapestri Bayeux
Galwch heibio ar y diwrnod i fwynhau’r holl weithgareddau. Yr unig weithgaredd sydd angen i chi archebu lle ymlaen llaw yw’r Daith Tu ôl i’r Llen i’r teulu. Fe allwch archebu tocynnau ar gyfer sioe Horrible Histories ar wahân ond does dim rhaid i chi gael tocyn i’r sioe i fwynhau’r gweithgareddau.
Rydym yn disgwyl y bydd galw uchel am y gweithgareddau hyn, felly cynlluniwch i gyrraedd cyn gynted â phosibl os dymunwch gymryd rhan. Mae lleoedd gweithdai yn amodol ar argaeledd.
Amserlen gweithgareddau:
Dydd Gwener 22 Medi, 4yp tan 7yh
• Paentio Wynebau Celtaidd
• Bwth Lluniau Hanesyddol
• Gwisg ffansi orau’r Barmy Briton
• Lliwio’r Tapestri Bayeux
Dydd Sadwrn 23 Medi 12yp tan 5yp (*12-2yp a 3-5yp yn unig)
• Taith Tu ôl i’r Llen i’r teulu (rhaid archebu lle ymlaen llaw, o leiaf un oedolyn i bob grŵp o blant, lleiafswm o un plentyn fesul grŵp, bydd y daith yn para dim mwy na 30 munud)
Archebwch le ar gyfer y daith 12.15yp
Archebwch le ar gyfer y daith 1yp
Archebwch le ar gyfer y daith 3.15yp
Archebwch le ar gyfer y daith 4yp
• Paentio Wynebau Celtaidd*
• Bwth Lluniau Hanesyddol*
• Gwisg ffansi orau’r Barmy Briton
• Lliwio’r Tapestri Bayeux
• Addurno Coron y Tuduriaid
• Crefftio Silwét Cameo Fictoraidd bach
Bydd gwobrau ar gael ar gyfer y Wisg Ffansi Orau fel Barmy Briton ac am liwio’r Tapestri Bayeux.