Paned a Stori: Odyssey ’84

Crëwyd yn y Sherman Theatr
Archive

Adolygiad

27 Meh 2024
10.30yb

Gwybodaeth Bellach

  • Gofod: Stiwdio
  • Iaith: Saesneg
  • Hyd: 2 awr 30 munud gan gynnwys egwyl. Hefo sesiwn H&A i ddilyn.
Gwybodaeth Pwysig

Mae sioe hon yn cynnwys darluniau o drais ac iaith gref. Am fwy o wybodaeth, ymwelwch a’r dolen hon.

Sgwrsio, cwmni, coffi a theatr! Ymunwch â ni am gyfres nesaf Paned a Stori, cyfle i bobl hŷn ddod at ei gilydd yn rheolaidd.

Caiff ein cynulleidfa Paned a Stori weld rhagolwg ecsgliwsif o Odyssey ’84 gan Tim Price, mewn darlleniad wedi’i ymarfer cyn eu perfformiadau dangosiad rhyngwladol cyntaf ym mis Mawrth.

Byddwn yn ymgasglu yn y cyntedd am 10yb cyn i’r perfformiad ddechrau ac mae croeso i chi eistedd lle bynnag y dymunwch, felly gallwch chi gadw pellter cymdeithasol os hoffech.

Bydd tê a chacennau yn cael eu gweini yn y cyntedd wedyn a bydd y Caffi Bar ar agor i’r rhai sydd am brynu cinio.

Dyma fydd un o’r troeon cyntaf i’r ddrama gael ei darllen drwyddo yn ei chyfanrwydd. Ar hyn o bryd, rydym ni’n disgwyl i’r ddrama i fod tua dwy awr a hanner, gan gynnwys egwyl. Fydd hyn yn cael ei ddilyn hefo sesiwn holi ac ateb fydd yn para 30 munud.

Dehongliad BSL gan Tony Evans.
Mae hwn yn berfformiad ymlaciol a Dementia Gyfeillgar.
Bydd sgwrs ar ôl y sioe yn dilyn y perfformiad.

Mae tocynnau yn £5. Cysylltwch y Swyddfa Tocynnau ar 029 2064 6900, ebostiwch box.office@shermantheatre.co.uk neu cliciwch ar y ddolen uwchben i archebu tocynnau.

/

Mwy o wybodaeth am Odyssey ’84

Mae’r personol a’r gwleidyddol yn gwrthdaro yn narlun hyfryd a chalonogol Tim Price o Streic y Glowyr ym 1984, wedi’i ysbrydoli gan Homer a’i ddarn Odyssey.

“Felly. Dyn o droeon mawr. Adrodda i ni dy stori. O’r dechrau.”

Wrth i’r streic gychwyn mae’r glöwr John O’Donnell yn cael ei wthio at frwydr o oroesi, sy’n ei dywys ymhell o De Cymru. Yn y cyfamser, nôl adref, mae ei wraig Penny yn mynd ar ei thaith epig bersonol ei hun wrth iddi ymdrechu i gefnogi ei chymuned. Pan gânt eu haduno o’r diwedd, fe ddown i ddeall bod eu siwrneiau gwbl wahanol wedi trawsnewid eu bywydau am byth.

Wedi’i gosod yn erbyn cefndir un o gyfnodau mwyaf cythryblus ein hanes diweddar, mae Odyssey ’84 yn addo profiad gwefreiddiol yn y theatr. Mae’r ddrama newydd fawreddog hon yn sôn am ein delfrydau, a’r anturiaethau y cawn yn eu sgìl.

/

Cefnogir Paned a Stori gan Gwendoline and Margaret Davies Charity a Chyngor Celfyddydau Cymru.