Sgwrsio, cwmni, coffi a theatr! Ymunwch â ni am gyfres nesaf Paned a Stori, cyfle i bobl hŷn ddod at ei gilydd yn rheolaidd.
Y mis yma fydd Paul Jenkins yn rhoi darlleniad ymarferig o’i ddrama Moscow Love Story.
Moscow 2001. Rhamant o danwydd fodca drwy strydoedd Rwsia yn nyddiau cynnar Putin. Mae Moscow Love Story yn archwiliad anial o gariad ac atgofion.
Byddwn yn ymgasglu yn y cyntedd am 10.30yb cyn i’r perfformiad ddechrau ac mae croeso i chi eistedd lle bynnag y dymunwch, felly gallwch chi gadw pellter cymdeithasol os hoffech.
Bydd tê a chacennau yn cael eu gweini yn y cyntedd wedyn a bydd y Caffi Bar ar agor i’r rhai sydd am brynu cinio.
Mae hwn yn berfformiad ymlaciol a Dementia Gyfeillgar. Dehongliad BSL gan Nikki Champagnie Harris.
Bydd sgwrs ar ôl y sioe yn dilyn y perfformiad.
Mae tocynnau yn £5. Cysylltwch y Swyddfa Tocynnau ar 029 2064 6900, ebostiwch box.office@shermantheatre.co.uk neu cliciwch ar y ddolen uwchben i archebu tocynnau.
Cefnogir Paned a Stori gan Gwendoline and Margaret Davies Charity a Chyngor Celfyddydau Cymru.