Paned a Stori

Siaradwyr Theatr

Adolygiad

4 Ebrill 2025
10.30yb

Prisiau

£5

Sgwrsio, cwmni, coffi a theatr! Ymunwch â ni am gyfres nesaf Paned a Stori, cyfle i bobl hŷn ddod at ei gilydd yn rheolaidd.

Caiff ein cynulleidfa Paned a Stori weld darlleniad ecsgliwsif wedi’i ymarfer gan un o ffefrynnau cyfnod Nadolig yn y Sherman, Keiron Self (My Family) o’i sioe un-dyn newydd, Martin Decker: Dad. Bydd sesiwn holi ac ateb yn syth ar ôl y sioe fel y gallwch ofyn unrhyw gwestiynau sy’n dod i feddwl wrth wylio. Byddwn yn ymgasglu yn y cyntedd am 10.30yb cyn i’r perfformiad ddechrau ac mae croeso i chi eistedd lle bynnag y dymunwch. Bydd te a chacennau yn cael eu gweini yn y cyntedd wedyn a bydd y Caffi Bar ar agor i’r rhai sydd am brynu cinio.

Mae hwn yn berfformiad ymlaciol a Dementia gyfeillgar.
Mae tocynnau yn £5. Cysylltwch â’r Swyddfa Tocynnau ar 029 2064 6900, e-bostiwch box.office@shermantheatre.co.uk neu cliciwch ar y ddolen uwchben i archebu tocynnau