Sherman Players

Our Country’s Good

Crëwyd yn y Sherman

Ysgrifennwyd gan Timberlake Wertenbaker. Yn seiliedig ar y nofel The Playmaker gan Thomas Keneally

Cyfarwyddwyd gan Francesca Pickard

Archive

Adolygiad

11 - 13 Gor 2024
7.30yh

Gwybodaeth Bellach

  • Gofod: Stiwdio
  • Iaith: Saesneg
  • Hyd: Tua 2 awr 15 munud yn cynnwys egwyl
Gwybodaeth Pwysig

Mae’r sioe hon yn delio â themau aeddfed o’r dechrau, yn cynnwys iath gref, trais, cynnwys rhywiol, a phynciau y gall rhai aelodau o’r gynulleidfa eu gweld yn peri gofid. Darganfyddwch fwy.

Dynoliaeth, empathi, cyfiawnder, ac adbryniad.

Dyma glasur cyfoes sy’n taflu goleuni newydd ar bennod dywyll yn hanes Prydain.

Yn seiliedig ar stori trefedigaeth gosbol gyntaf Awstralia, mae’r ddrama’n edrych ar y rhan roedd ffawd, dosbarth a phŵer yn ei chwarae yng nghosb ac achubiaeth y bobl gyffredin hynny a’u hanfonwyd i ben draw’r byd.

Drama i’r rheiny sy’n hoff o drafod, ac sy’n barod i brofi pob math o emosiwn mewn un perfformiad tanbaid. Perfformir gan y Sherman Players.

Cyflwynir y cynhyrchiad amatur hwn o “Our Country’s Good” trwy drefniant gyda Concord Theatricals Ltd. Ar ran Samuel French Ltd. www.concordtheatricals.co.uk