Mae’r personol a’r gwleidyddol yn gwrthdaro yn nrama epig a phwerus Tim Price sy’n ail gyflwyno Streic y Glowyr, 1984, wedi’i ysbrydoli gan Odyssey gan Homer.
“Felly. Dyn o droeon mawr. Adrodda i ni dy stori. O’r dechrau.”
Drama deimladwy, angerddol a dirdynnol, mae Odyssey ’84 yn creu darlun o’r anturiaethau a ddaw wrth i ni ddilyn ein delfrydau. Ar gychwyn y streic a’r anghytundeb gyda Llywodraeth Prydain mae’r glöwr John O’Donnell (Odysseus) yn cael ei hun mewn brwydr i oroesi, brwydr sy’n mynd ag e ymhell o Dde Cymru. Yn y cyfamser, gartref mae ei wraig Penny (Penelope) yn mynd ar siwrnai bersonol epig ei hun wrth iddi geisio cefnogi ei chymuned. Pan mae’r ddau’n dod yn ôl at ei gilydd, nid yn unig yw’r byd o’u cwmpas wedi newid, ond maen nhw wedi hefyd.
Mae Cyfarwyddwr Artistig Theatr y Sherman, Joe Murphy, (Housemates, Tales of the Brothers Grimm) yn cyfarwyddo cast rhagorol sy’n cynnwys Rhodri Meilir fel O’Donnell a Sara Gregory fel Penny. Gyda set anhygoel a thrac sain yn llawn cerddoriaeth yr 80au, mae Odyssey ’84 yn addo profiad theatraidd trawiadol i nodi 40 mlynedd ers un o gyfnodau mwyaf cythryblus ein hanes diweddar. Mae Odyssey ’84 yn ddathliad o bŵer cymuned a gwir ystyr undod.
Ar gyfer y cynhyrchiad anhygoel yma, fydd y cast proffesiynol yn cael eu hymuno gan aelodau o Sherman Players, ein hensemble anprofessiynol: Willow Craig, Trystan Davies, Morgan Dawkins, Daniel De Gruchy, Cata Lindergaard, Osian Lloyd, Nuala Lomax, Charlie McCollom-Cartwright, Cerys Morgan, Michael Morgan, Zak Peterffy, a Jed Sheahan.
Tri pheth i wybod am Odyssey ‘84:
- Mae Odyssey ’84 yn taflu newydd ar y gefnogaeth ryngwladol a roddwyd i’r glowyr, yn ogystal â rôl menywod yn yr anghytundeb â llywodraeth Prydain.
- Mae’r ddrama wedi’i hysbrydoli gan Odyssey, cerdd epig Homer, bardd yr Hen Roeg – stori sydd wedi bod yn berthnasol ar hyd yr oesoedd ac sydd â rhywbeth ystyrlon i ddweud am ein bywydau erioed. Mae hyd a phŵer Odyssey yn gefnlun perffaith i’r stori hon am ddau berson yn chwilio am eu cartref, eu pwrpas a’u cymuned. Mae llawer o ddarnau nodedig y gerdd yn cael eu hail-ddychmygu yn y ddrama. Yng ngherdd Homer, mae Odysseus wrth fympwy’r duwiau. Yn Odyssey ’84, mae O’Donnell a Penny ar drugaredd grymoedd pwerus eraill y tu hwnt i’w rheolaeth, sydd yn llawer nes.
- Efallai bod 1984 yn teimlo’n bell yn ôl, ond mae gwaddol ac effaith Streic y Glowyr i’w deimlo ac i’w weld o’n cwmpas o hyd. Mae Odyssey ’84 yn ein helpu ni i ddeall sut y cyrhaeddon ni yma o’r cyfnod hwnnw yn ein hanes. Mae Tim Price yn disgrifio Streic y Glowyr fel ‘y foment ddiffiniol yn hanes modern Cymru fel y gwrthwynebiad mawr olaf rhwng y werin a’r wladwriaeth’.
Mae y perfformiadau o 11 i 14 Hydref yn Talwch Beth Fynnwch. Mae archebion am berfformiadau Talwch Beth Fynnwch yn amodol ar uchafswm o 9 tocyn fesul archeb. Nid yw gostyngiadau ychwanegol yn berthnasol i’r perfformiadau hyn.
Dehongliad BSL gan Tony Evans (17 Hyd 7.30yh and 24 Hyd 7.30yh).
Wynford Jones a Geoff Cripps yn wreiddol The Chartists.
Ddydd Sadwrn 19 Hydref, bydd cynulleidfaoedd Odyssey ’84 yn cael eu trin i gerddoriaeth gwerin fyw yn ein Stiwdio. All cynulleidfaoedd y sioe prynhawn mwynhau nhw o 4.30yp i 5.15yp. Fyddant nhw hefyd yn chware cyn y perfformiad hwyr (6.15yp – 7yp.
Ysgolion a Gweithdai:
Bydd dod i weld Odyssey ‘84 yn darparu disgyblion â ffordd unigryw o archwilio hanes cyfoes Cymru ac amser hollbwysig i wleidyddiaeth ac economeg fyd-eang. Oherwydd hyn, rydym yn cynnig sawl ffordd y gall ysgolion a cholegau ymgysylltu’n greadigol â’r cynhyrchiad.
I ddysgu mwy ynglŷn â gweithdai a chynigion ar gyfer Ysgolion, plîs dilynwch y linc yma.
Streic! 84-85 Strike!
1984: Y flwyddyn aeth Margaret Thatcher benben â’r cymunedau glofaol.
Arweiniodd haf llawn gobaith a gwrthsefyll angerddol at aeaf o drais, caledi, colli bywoliaeth – a bywydau – ledled rhai o gymunedau mwyaf gwydn Cymru.
40 mlynedd yn ddiweddarach, mae effaith Streic y Glowyr yn parhau. O luniau a phlacardiau protest i straeon personol o frawdoliaeth yn eu brwydr yn erbyn byd oedd yn prysur newid, mae’r arddangosfa bwysig hon yn taflu goleuni ar Streic y Glowyr a’i effaith hynod ar ein gwlad.
Dewch i weld angerdd a thensiwn y brotest yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. 26 Hydref 2024 – 27 Ebrill 2025.
Archebwch eich tocyn nawr: www.amgueddfa.cymru/Streic