Perfformiad cyngerdd sgript-mewn-llaw o sioe gerdd fawr newydd gan Seiriol Davies
Mae O.G. Prince of Wales yn stori ramant cwiar epig am Owain Glyndŵr a Harri V, gyda chleddyfau a dewiniaeth. Mae’r rebel o Dywysog a’r Brenin eneiniog yn mynd benben â’i gilydd mewn sioe gerdd newydd ddoniol a theimladwy am yr ymdrech fwyaf dynol honno: yr ymgais i ddarganfod pwy ydyn ni ac i ble rydyn ni’n perthyn.
Ymunwch â ni ar gyfer cam cyntaf taith y sioe gerdd fawr newydd hon gan Seiriol Davies (How to Win Against History, Milky Peaks, The Messenger a Betty! A Sort of Musical).
Cefnogir gan National Theatre Wales.
Tîm creadigol:
Seiriol Davies – Cerddoriaeth, Geiriau a Llyfr
Joe Murphy – Dramatwrg a Chyfarwyddwr
Leo Munby – Cyfarwyddwr Cerdd
Mae’r cast yn cynnwys Sharif Afifi, Marc Antolin, Seiriol Davies, James Ifan, Emily Ivana Hawkins, Emmy Stonelake a Rhys Taylor.
Ariannir gan Cyngor Celfyddydau Cymru.
Gyda diolch i Sefydliad John Ellerman am eu cefnogaeth i brosiect Dramayddion Cyswllt NTW, sy’n paru dramyddion gyda phrosiectau sy’n digwydd yn 2023-2024.