Dros bum mlynedd ar hugain, mae Luke Wright wedi magu enw fel un o feirdd byw mwyaf poblogaidd Prydain.
Chwifiwch eich baneri! Mae Luke Wright yn dathlu ei Jiwbilî Arian.
Dros gyfnod o bum mlynedd ar hugain, mae Luke Wright wedi magu enw fel un o feirdd byw mwyaf poblogaidd Prydain. Mae wedi ennill pedair Gwobr Saboteur (gwobrau cenedlaethol am air llafar), Gwobr y Stage a Fringe First. Mae wedi llenwi sioeau ar draws y byd a theithio’n gyson gyda John Cooper Clarke a The Libertines.
Cafodd y sioe yma ei chyflwyno o flaen arena lawn yng Ngŵyl Latitude cyn gwerthu allan yng Ngŵyl Ymylol Caeredin lle enillodd y sioe llwncdestun y beirniaid.
Eleni, yn groes i’w ymdrechion o gynnal parti stryd gan y philistaidd yn y cyngor a methu’n glir a gwaredu’r platiau coffa a archebodd, gwna Wright yr hyn mae beirdd yn eu gwneud orau, edrych yn ddwfn y tu mewn iddo’i hun. Yn dilyn, mae un o’i sioeau mwyaf cyffesgell hyd yn hyn.
Cafodd Wright ei fabwysiadu yn faban a chafodd ei fagu yn credu “nad rhywbeth mawr” oedd cael dy fabwysiadu. Ond un noson, fe ddoth ar draws ei fam enedigol ar Facebook. Mae’r ffenest hon i fyd gwahanol yn codi cwestiynau dwys am fraint, cariad teuluol, a thynged.
Dyma sioe sy’n archwilio bywydau wedi eu byw a heb eu byw. Mae Wright yn llywio’i gynulleidfa drwy awr gynnes ag onest o farddoniaeth a stand-yp â’r un uniongyrchedd a phathos a’i sefydlodd fel un o feirdd byw mwyaf poblogaidd Lloegr. Gydag ambell arbrawf gwyllt o ran ffurf, cath fach nerfus o’r enw Syr John Betjeman a chymysgedd iach o ddrwm a bas, mae Wright yn llwyddo i lywio rhywfaint o ddeunydd torcalonnus a mwy na digon o chwerthin.