Love, Cardiff: 50 years of your stories

Crëwyd yn y Sherman Sherman yn 50 Theatr

Ysgrifennwyd gan ein Community Cast a Paul Jenkins

Cyfarwyddwyd gan Francesca Pickard

Archive

Adolygiad

17 a 19 Awst
2.00yp (Perfformiad Prynhawn Dydd Sadwrn) & 7.00yh

Gwybodaeth Bellach

  • Gofod: Prif Theatr
  • Hyd: 1 awr 15 munud (heb egwyl)
Gwybodaeth Pwysig

Mae’r perfformiad hwn yn cynnwys rhai golygfeydd a allai beri gofid i rai cynulleidfaoedd, ergydion gwn, sŵn uchel, goleuadau’n fflachio a niwl. Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma.

Dychmygwch ddinas sydd wedi’i thrawsnewid gan y bobl sydd wedi dod yno i fyw. Dinas a gyfoethogir gan ei chymunedau amrywiol sy’n byw ochr yn ochr. Y ddinas honno yw Caerdydd – dinas â miloedd o straeon.

Mae ein penblwydd yn 50 yn gyfle i ddathlu’r bobl a’r ddinas a wnaeth Theatr y Sherman yn bosibl, y ddinas yr ydym i gyd yn ei charu. Mae Love, Cardiff: 50 Years of Your Stories yn foment fawr yn ystod dathliadau ein pen-blwydd yn 50 oed. Bydd cymunedau o bob rhan o Gaerdydd yn camu ar lwyfan ein Prif Dŷ i adrodd rhai o’u straeon. Mae’r rhain yn straeon anhygoel o garreg eich drws. Drwy gydol y sioe byddwn hefyd yn adrodd hanes y bobl hynod a wnaeth Theatr y Sherman yn bosibl. Mae’r digwyddiad pwysig hwn yn cynnwys perfformwyr proffesiynol ochr yn ochr ag aelodau o’r cymunedau.

Mae Love, Cardiff: 50 Years Of Your Stories yn ddathliad, ac yn sioe sy’n llawn empathi, haelioni, tosturi ac ambell i syrpreis. Dewch i wylio’r straeon gan y cymunedau sydd o’ch cwmpas, i ddarganfod pethau newydd a gweld y byd trwy eu llygaid nhw. Mae Love, Cardiff: 50 Years of Your Stories yn sicr o fod yn brofiad theatr byw sy’n llawn egni ac yn cyfoethogi bywydau wrth ei rannu ag eraill. Ymunwch â ni ym mis Awst a byddwch yn rhan o rywbeth ehangach.

I Love, Cardiff: 50 Years Of Your Stories, byddwn yn gweithio gyda Darpariaeth Dydd Cathays (ADY), y Welsh Ballroom Community (LHDTC+), Waulah Cymru, Cymdeithas Cwrdaidd Cymru Gyfan, Cymdeithas Hanes Iddewig De Cymru, ac aelodau o’r Gymuned Fyddar.

Mae’r cynhyrchiad yn ganlyniad i brosiect cymunedol a wnaed yn bosibl drwy Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Ein Cymunedau

Mae Cymdeithas Cwrdaidd Cymru Gyfan yn dod â Chwrdiaid at ei gilydd sydd bellach yn byw yng Nghymru ond â’i gwreiddiau yn Nhwrci, Syria, Iran ac Irac, y pedair gwlad sy’n rhan o ranbarth Cwrdistan. Mae’r grŵp yn bodoli i annog integreiddiad ac i warchod a dathlu diwylliant ac iaith y bobl Cwrdaidd, sydd wedi hir ddioddef erledigaeth, drwy ddarparu cefnogaeth a chyfleoedd i unrhyw un sydd wedi cael eu dadleoli. Rydym yn ddiolchgar i fedru rhannu ein stori o frwydro ar brif lwyfan y Sherman a chodi ymwybyddiaeth am anawsterau’r Cwrdiaid, tra hefyd yn dathlu’r cartref rydym wedi ei greu yma yng Nghymru.

Mae’r Welsh Ballroom Community wedi bod yn cynyddu yn eu nifer o ddilynwyr ers ei sefydlu yn ystod y cyfnod clo. Mae Dawnsfa (Ballroom) yn isddiwylliant cyfrin sydd ag hanes cyfoethog ac yn darparu lle diogel i bobl LHDTCRh+ ddod at ei gilydd, i ddathlu ei gilydd, a chystadlu mewn gwahanol gategorïau yn ystod digwyddiadau dawns. Mae’r sîn yn un ryngwladol, gyda ‘tai’ ledled y byd, ac erbyn hyn mae Caerdydd ar y map. Rydyn ni wedi mwynhau’r ymarferion ar gyfer y cynhyrchiad yma yn fawr. Mae wedi caniatáu i ni dyfu, nid yn unig fel unigolion, ond fel cymuned a theulu. Edrychwn ymlaen at arddangos hyn pan fyddwn yn rhannu ein stori a dathlu ein bod wedi ymuno â The Royal Iconic Houses Of Milan.

Mae Hwb Byddar Caerdydd, wedi’i leoli ar Heol Casnewydd, yn gartref diwylliannol a chymdeithasol i’r Gymuned Fyddar yng Nghaerdydd a’r cyffiniau. Amcangyfrifir bod 200-300 o bobl o bob cefndir yn cael eu gwasanaethu gan y ganolfan, yn ogystal â Chlwb Cŵl Ieuenctid Byddar. Yma gall pobl Fyddar ddod o hyd i gefnogaeth a chael lle i ymlacio a chymdeithasu ag eraill. Drwy rannu ein straeon rydym am wneud pobl yn ymwybodol o’r rhwystrau a’r heriau mae pobl Fyddar yn eu hwynebu, ond rydym hefyd am ddathlu ein cymuned, ein hiaith a’n hymrwymiad i gefnogi ein gilydd a’r genhedlaeth nesaf.

Grŵp ar gyfer oedolion ag anghenion ychwanegol yw Darpariaeth Dydd Cathays, wedi’i leoli yng Nghanolfan Gymunedol Cathays. Mae aelodau’n cymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol yn wythnosol, lle cant eu hannog a’u cefnogi i gymryd yr awenau, magu hyder, gwneud ffrindiau a datblygu sgiliau gydol oes. Hoffem ddiolch i Theatr y Sherman am roi’r cyfle i ni fod yn rhan o’r cynhyrchiad cymunedol hanner canmlwyddiant er mwyn i ni adrodd ein straeon. Straeon sy’n dathlu gwreiddioldeb, uchelgeisiau a llwyddiannau, ac yn arddangos yr awyrgylch anhygoel yn y ganolfan a’r perthnasoedd arbennig sy’n cael eu creu yno.