Adolygiad
1 - 2 Tach a 25 Tach 2024 - 4 Ion 2025Prisiau
£9.50. Ysgolion £6.50.
Gwybodaeth Bellach
- Iaith: Saesneg
- Gofod: Stiwdio
- Oedran: 3 - 6
- Hyd: Tua 50 munud
- Sat 14 Dec - 1:30pm Audio Described
- Sat 14 Dec - 1:30pm BSL interpreted
- Sat 28 Dec - 11:00am Relaxed Performance
Dangosiad Rhyngwladol Cyntaf
Y cyflwyniad perffaith i theatr ar gyfer plant rhwng 3-6
Mae hi’n Nadolig. Amser i fwynhau, dathlu a rhannu anrhegion. Mae Red wrth ei bodd yn derbyn anrhegion, a phan mae clogyn coch arbennig yn ymddangos yn ei hosan Nadolig, mae yna gyffro drwy’r tŷ!
Wrth fynd am dro i weld ei mam-gu, mae hi’n mynd ar goll yn y goedwig ac yn cyfarfod blaidd llwglyd. Er bod y blaidd yn chwarae triciau arni ac yn ei thwyllo, mae’r ddau’n dod i nabod ei gilydd ac yn darganfod bod llawer mwy i’r Nadolig nag anrhegion a theganau newydd. Ymunwch â Red am antur hudolus a gwledd o ganeuon hyfryd dros yr ŵyl. Rydyn ni’n addo y byddwch chi wrth eich boddau.
Bob Nadolig rydyn ni’n cyflwyno drama i blant sy’n cynnig fersiwn newydd sbon o stori dylwyth teg glasurol. Dros y blynyddoedd mae ein sioeau dychmygol, llawn hwyl a sbri, wedi bod yn gyflwyniad arbennig i’r theatr i filoedd o blant. Yn dilyn llwyddiant ysgubol Hansel and /a Gretel y llynedd mae Katie Elin-Salt yn dychwelyd gyda’i hail sioe Nadolig i blant bach dan 7 oed.
Mae’r perfformiad hyn yn Saesneg. Bydd Yr Hugan Fach Goch yn cael eu berfformio yn y Gymraeg ar perfformiadau gwahanol.
Bydd y perfformiadau ar 1 a 2 Tachwedd yn Talwch Beth Fynnwch.
Dehongliad BSL gan Claire Anderson – Dydd Sadwrn 14 Rhagfyr, 1.30yp.
Sain Ddisgrifio gan Erika James – Dydd Sadwrn 14 Rhagfyr, 1.30yp.
Cefnogir gan Theatr Genedlaethol Cymru
Taith ar draws De Cymru.
Fydd Little Red Riding Hood yn mynd ar daith ledled De Cymru yn Dachwedd. Edrychwch i weld os mae’n dod i le sydd yn agos i chi:
4-5 Tachwedd 2024 (Perfformiadau Saesneg a Cymraeg.)
Canolfan Soar, Penygraig.
8 Tachwedd 2024 (Perfformiadau Saesneg a Cymraeg.)
Glan yr Afon, Casnewydd.
11 Tachwedd 2024 (Perfformiadau Saesneg a Cymraeg.)
The Welfare, Ystradglynais
12 Tachwedd 2024 (Perfformiadau Saesneg a Cymraeg.)
Theatr Brycheiniog, Aberhonddu
13 Tachwedd 2024 (Perfformiadau Saesneg yn unig.)
Canolfan y Celfyddydau Memo, Barri.
21-22 Tachwedd 2024 (Perfformiadau Saesneg yn unig.)
Drill Hall, Cas-gwent.
Gwybodaeth Ysgolion
Meddwl mynd am drip Nadolig eleni? Mae dod a grŵp i Theatr y Sherman yn hawdd. Am fwy o wybodaeth am fanteision dod a grŵp Ysgol i’r Sherman dilynwch y linc yma.
Pris Ysgol: £6.50
I archebu grŵp ysgol cysylltwch â’n Swyddfa Tocynnau ar 029 2064 6900 neu gyrrwch e-bost i box.office@shermantheatre.co.uk