Coleg Gwent

Kiss / Marry / Push Off Cliff

Theatr

Ysgrifennwyd gan Josh Azouz

Cyfarwyddwyd gan Kate Griffiths

Archive

Adolygiad

3 Ebr 2024
4.30yp

Gwybodaeth Bellach

  • Gofod: Y Brif Theatr
  • Iaith: Saesneg
  • Hyd: 50 munud
Gwybodaeth Bwysig

Mae’r sioe hon yn cynnwys iaith gref, cyfeiriadau rhywiol, golygfeydd o ddefnyddio a dosbarthu cyffuriau, golygfeydd o alcoholiaeth, a phlant yn yfed alcohol.

Perfformiwyd gan Coleg Gwent fel rhan o NT Connections 2024.

Mae mis Ebrill bob amser yn gyfnod cyffrous yn Theatr y Sherman. Eleni eto, bydd cwmnïau theatr ieuenctid o bob cwr o de Cymru yn ymgynnull yn y Sherman wrth i ni gynnal Gŵyl NT Connections.

I bawb sy’n hoffi theatr, cewch wledd o ysgrifennu newydd wedi’i berfformio gan dalent ifanc ddisglair. Bydd pob cwmni theatr ieuenctid yn cael y cyfle i berfformio, dysgu sgiliau newydd a gwneud ffrindiau. Dewch draw i’r Sherman dros y gwanwyn i brofi dyfodol y theatr.

Darganfyddwch mwy am Kiss / Marry / Push Off Cliff a berfformir gan Coleg Gwent:

Mae criw o ffrindiau’n mynd i wersylla – ond ar ôl y noson gyntaf, mae un ohonynt yn cael ei diarddel gan weddill y grŵp a’i herlid i’r anialwch ar ôl iddynt ddweud rhywbeth… neu ai wedi gwneud rhywbeth oeddent?

Mae’r holl beth yn rhyfedd ac ar fin mynd yn fwy rhyfedd wrth iddynt roi eu cyfeillgarwch ar brawf, creu cynghreiriau o’r newydd, colli ffydd, a gweld realiti yn troi ben i waered. Tro’r daith yn ddefod newid byd… wedi’i harwain gan gwmpawd moesol sy ddim o reidrwydd yn ddibynadwy.