Berk’s Nest sy'n cyflwyno

Kiell Smith-Bynoe & Friends: Kool Story Bro

Comedi

Adolygiad

11 Ebrill 2025
8pm

Prisiau

£28.50

Gwybodaeth Pwysig

16+, iaith gref a themâu oedolion yn debygol drwyddi draw.

“This magnetic performer’s great improv shows always prove a hit” – Evening Standard

Yn seren ar Taskmaster, Ghosts a The Great British Sewing Bee, mae Kiell Smith-Bynoe yn mynd ar daith gyda chast serennog o ddigrifwyr ac ambell westai arbennig iawn i droi straeon y gynulleidfa yn olygfeydd comedi cwbl fyrfyfyr.

Yn syth ar ôl sioeau gorlawn yng Nghaeredin, Llundain a Brighton, mae Kool Story Bro yn sioe gomedi byrfyfyr na ellir ei cholli sy’n troi straeon mwyaf rhyfedd y gynulleidfa yn sgetshys heb eu sgriptio. Ynghyd â gwesteiwr enwog, mae’r “byrfyfyrwyr o’r radd flaenaf” (Corr Blimey) hyn ar fin creu sioe newydd sbon sy’n hollol unigryw ac yn wirion bost.

Yn ymuno â Kiell bydd byrfyfyrwyr sy’n rhan o gast amrywiol Kool Story Bro, gan gynnwys ffefrynnau Starstruck Lola-Rose Maxwell a Nic Sampson, Graham Dickson o Afterlife a Austentatious, Robert Gilbert o Big Boys, Emily Lloyd-Saini o Mock The Week, Anna Leong Brophy o Shadow and Bone, Emma Sidi o Taskmaster, Brendan Murphy o Buffy Revamped a mwy.

Mae gwesteion arbennig y gorffennol yn cynnwys Lily Allen, Jamie Demetriou, Mo Gilligan, Charlotte Ritchie, Mathew Baynton, Guz Khan, a Munya Chawawa.