Strange Tales from the Culture Wars
Mae Things Fell Apart yn addasiad byw o bodlediad poblogaidd Jon ar BBC Radio 4. Bydd Jon yn adrodd straeon o’r sioe, a rhai straeon newydd sbon hefyd. Bydd clipiau sain a fideo prin, gwesteion annisgwyl a sesiwn holi-ac-ateb.
Dros y blynyddoedd diwethaf mae Jon wedi gweld ffrindiau’n cael eu dal mewn rhyfeloedd ar-lein i’r fath raddau nes eu bod wedi colli popeth – eu gyrfaoedd, a’u lles personol. Ac wrth gyfeirio at y rhyfeloedd diwylliannol hyn, mae Jon yn sôn am y frwydr am oruchafiaeth rhwng gwerthoedd sy’n gwrthdaro. Roedd Jon eisiau deall sut roedd pethau wedi chwalu, ac felly fe aeth yn ôl mewn amser i ddod o hyd i’r tarddiad, y cerrig mân sy’n cael eu taflu i’r pwll gan greu’r crychdonnau. Doedd ganddo ddim syniad pa mor annisgwyl, a pha mor hudol fyddai’r straeon.
___
Sylwch nad yw’n ofynnol bellach i aelodau’r gynulleidfa ddangos pas Covid y GIG i gael mynediad i berfformiad.
Gwisgwch fwgwd trwy gydol eich ymweliad.
Rhaid i holl aelodau’r gynulleidfa ac ymwelwyr wisgo mwgwd (neu fygydau) trwy gydol eu hymweliad gan gynnwys yn ystod perfformiadau, oni bai eich bod wedi’ch eithrio (ag eithrio pan yn bwyta neu’n yfed yn yr awditoriwm). Nid oes disgwyl i gwsmeriaid y Bar Caffi wisgo mwgwd wrth eistedd wrth fwrdd. Darganfyddwch fwy am y camau rydym yn eu cymryd i gadw ein cynulleidfaoedd a’n staff yn ddiogel.