John Shuttleworth

Comedi

Adolygiad

8 Ebrill 2025
7.30yh

Prisiau

Cyffredinol: £24.50

Gwybodaeth Bellach

  • Gofod: Prif Theatr
  • Iaith: Saesneg

Yn ffefryn Radio 4, digrifwr chwedlonol, a’r ’42fed rheswm gorau i garu Prydain (The Telegraph), mae JOHN SHUTTLEWORTH yn ôl gyda mwy o straeon a chaneuon doniol sy’n cael eu perfformio ar ei organ Yamaha ffyddlon (gyda chyfeiliant gosod awtomatig!) Gyda’i sioe RAISE THE OOF, mae John yn dathlu 40 mlynedd yn y byd perfformio. Oedd, mi oedd hi’n 1985 pan gwrddodd â Dyn Clarinet y teledu – ei gymydog Ken Worthington a ddaeth yn olaf ar New Faces yn 73 (a chael croeshoeliad gan Tony Hatch!)

“Pan gwrddais i â Ken roedd e’n bwyta CurlyWurly” meddai John, “er i ddechrau, o’n i’n eddwl mai pecyn o sparklers oedd ganddo, felly cadwais fy mhellter”, ac mae’r gweddill, fel maen nhw’n dweud, yn hysterig!

“ A dweud y gwir, dwi’n teimlo’n ddigon bwyllog” medd John, “er ar ôl deugain mlynedd a heb lwyddiant yn y siartiau, falle ddylwn i fod mwy pryderus. Mae fy ngwraig Mary yn dweud dylwn i gael swydd go iawn, ond does dim amser – dwi ar fin ymddeol! Ar ben hynny, dyw Comet – lle bues i’n arddangos offer sain – ddim yn bodoli mwyach. Ac o ran y ffatri losin yn ardal Rotherham lle bues i’n gweithio fel gwarchodwr diogelwch yn yr 1980au – mae’r adeilad ‘na bellach yn Ganolfan Taflu Bwyell. Oof!”

Ond dwi’n dal i bostio fy nghaneuon (ar dâp casét gyda Dolby i osgoi sain rhy wichlyd) i berfformwyr pop blaengar fel Chris Rea a’r Lighthouse Family, a dwi’n dal i gael fy mwcio i ganu yn yr hosbis leol (am arian petrol yn unig) felly mae gennym bob rheswm i ddathlu fy ngyrfa hir a disglair. Dewch draw i ymuno â mi i godi’ch dwylo i’r awyr, a helpu – mewn modd trefnus a rheoledig – i RAISE THE OOF!