I ddathlu rhyddhau ei chofiant doniol o’r un enw, mae’r comedïwr, nofelydd a’r haden broffesiynol Jenny Eclair yn teithio ledled y wlad gyda sioe hunangofiannol newydd sbon.
O’r ysgol ddrama, (sef yn bennaf, yfed seidr a bwyta sawl rhôl selsig), cysgu gyda dynion oedd yn edrych fel pe baent yn byw o dan garped, barddoniaeth pync, anorecsia, fflatiau pitw diflas, gweinyddu a’n gwybod braidd dim am ddim, i fod y fenyw gyntaf i ennill Gwobr Perrier, dod yn fam, awdur, hen ddynes sarrug, podledwr a nain!
Yn parhau i berfformio i dorfeydd llawn ddeugain mlynedd yn ddiweddarach, mae Jenny yn eich gwahodd i sbïo nôl ar bopeth mae hi’n cofio cyn iddi anghofio’r cwbl. Rhybudd, mae’n bosib fydd y sioe yn cynnwys barddoniaeth pync, synau anifeiliaid a chanu hwiangerddi fel bariton.