Teulu. Hunaniaeth. Hud
Dyma’r parti sy’n newid ei byd am byth.
Mae Josie yn darganfod parti tanddwr hudolus sy’n well nag unrhyw barti gyda bodau dynol a fu ynddo erioed. Dyma fyd lle mae hi’n dod o hyd i’w gwir hunaniaeth – ac Imrie Sallow.
Uwchben y dŵr mae’n teimlo ar goll mewn byd lle nad yw’n perthyn, gyda chwaer sydd eisiau iddi hi fod yn ‘hapus a normal’. Ond o gysgodion byd arallfydol, daw cyfrinach deuluol i’r amlwg sy’n newid popeth.
Beth allwch chi ei ddisgwyl gan Imrie?
Mae Imrie yn stori hudolus i oedolion ifanc a rhai hŷn am obaith, hunaniaeth a’r hyn mae’n ei olygu i fod ar y tu allan. Gyda dyluniad set trawiadol, a cherddoriaeth bwerus, cewch eich cludo i fyd arall wrth i ni ddilyn dwy chwaer ar daith o hunanddarganfyddiad. Dyma waith amrwd a gonest yn Gymraeg, sy’n archwilio themâu cyffredin drwy lens hudolus.
Popeth sydd angen i chi ei wybod am Imrie:
‘Sgwennu newydd yn y Gymraeg
Daw Nia Morais, Awdur Preswyl y Sherman, â’i drama lawn gyntaf i’r llwyfan ar ôl iddi gyd-ysgrifennu elfennau Cymraeg A Midsummer Night’s Dream gyda Mari Izzard yn yr hydref. Mae llais cyfoes Nia yn cyfuno disgrifiadau telynegol â deialog Gymreig fodern.
Mae’n gyd-gynhyrchiad gyda Frân Wen
Cyfarwyddir Imrie gan Gethin Evans, Cyfarwyddwr Artistig Frân Wen, mewn cyd-gynhyrchiad gyda’r cwmni. Yn flaenorol bu Gethin yn cyfarwyddo’r ddrama Gymraeg hynod lwyddiannus Woof gan Elgan Rhys ar gyfer Theatr y Sherman.
Clasur o stori am dyfu i fyny
Mae stori fythol, hyfryd Nia Morais yn ymwneud â hunaniaeth, beth mae’n ei olygu i ffitio i mewn a beth mae’n ei olygu i fod yn gyfforddus gyda phwy ydych chi, a’i gofleidio.
Pwy fydd yn mwynhau Imrie?
Bydd cynulleidfaoedd o bob oedran, o oedolion ifanc i rhai hŷn, yn cael eu swyno gan Imrie. Bydd yn apelio at unrhyw un sy’n mwynhau ffuglen i oedolion ifanc neu gwaith ysgrifennu newydd pwerus ar gyfer y llwyfan.
Does dim rhaid i chi siarad Cymraeg i fwynhau Imrie
Gyda chapsiynau Saesneg ym mhob perfformiad, gall siaradwyr newydd a rhai di-Gymraeg ddilyn y sioe drwyddi draw.
Cerddoriaeth gan Eädyth Crawford
Fe ysgrifennodd Eädyth y gerddoriaeth ar gyfer cynyrchiadau diweddar Theatr y Sherman, The Merthyr Stigmatist ac A Midsummer Night’s Dream, ac mae wedi cyfansoddi sgôr newydd arbennig ar gyfer y cynhyrchiad hwn.
BSL – 19 Mai gan Cathryn McShane
Taith
Theatr y Sherman, Caerdydd – 11 – 20 Mai
Canolfan Celfyddydau Pontardawe – 23 Mai
Canolfan Y Celfyddydau Aberystwyth – 24 Mai
Galeri, Caernarfon – 25 Mai
Theatr Clwyd, Wyddgrug – 6 Mehefin
Pontio, Bangor – 7-8 Mehefin
Torch, Aberdaugleddau – 10 Mehefin
Glan yr Afon, Casnewydd – 14 Mehefin
Yr Egin, Caerfyrddin – 15 Mehefin
Canolfan Garth Olwg, Pontypridd – 16 Mehefin