Theatr Cymru yn cyflwyno

Huw Fyw

Drama Perfformiadau yn Gymraeg

Hygyrch

  • Wed 14 May - 7:30pm Captioned
  • Thu 15 May - 7:00pm Captioned
  • Fri 16 May - 7:30pm Captioned

Adolygiad

14 - 16 Mai 2025
Amrywiaeth

Prisiau

£18 - £24. O Dan 25 Hanner Pris. Gostyngiadau £2 i ffwrdd.

Gwybodaeth Bellach

  • Gofod: Y Brif Theatr
Gwybodaeth Pwysig

Canllaw Oed: 12+ 

Yn cynnwys iaith gref, themâu aeddfed a chyfeiriadau at ryfel, euogrwydd goroesi ac Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD).

Bydd y perfformiad ar 16 Mai yn cael ei ffilmio ar gyfer yr archif a chyfleoedd darlledu/ffrydio yn y dyfodol. Os nad ydych am gael eich ffilmio fel rhan o’r gynulleidfa, rhowch wybod i aelod o staff ar y noson.

Dyma stori gwir (wel, gwir-ish) am Huw – neu Huw Fyw fel mae pawb yn ei alw fo, ers i’r Huw arall yn y pentra’ farw yn yr Ail Ryfel Byd.

Dydi Huw Fyw ddim yn coelio mewn ffawd. A dydi o ddim yn coelio mewn gwenu chwaith, na gwastraff, nac unrhyw beth sy’n gofyn iddo godi o’i gadair. Ond ar ôl tro lwcus, mae Huw yn cychwyn ar antur fythgofiadwy o’i bentra’ bach i ganol Llundain; antur fydd yn newid cyfeiriad ei fywyd am byth ac yn dysgu iddo sut i fyw at heddiw, heb anghofio’r gorffennol. 

80 mlynedd ers i’r Ail Ryfel Byd ddod i ben, dyma ddrama lwyfan newydd gan Tudur Owen am obaith, diogi a sut mae ’neud 4 paned gydag un bag te! Yn ei ddrama gyntaf i’r llwyfan, bydd Tudur hefyd yn serennu fel Huw Fyw, gyda chyfarwyddo gan Steffan Donnelly. Cyhoeddiad cast ehangach i ddilyn.