Mae Housemates yn ôl yn 2025, yn sgil galw mawr.
Yn y 1970au, tafliad carreg o ddrysau’r Sherman, fe gychwynnodd chwyldro. Chwyldro a newidiodd y byd. Fe gychwynnodd y cyfan pan ddaeth Alan, dyn ifanc a anwyd gyda syndrom Down, yn rhan o fywyd Jim, myfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd. Roedd Alan wedi byw yn Ysbyty Trelái fel preswylydd ers ei blentyndod. Y cyfan roedd Alan eisiau oedd byw mewn tŷ a bod yn rhan o fand. Roedd Jim am wneud gwahaniaeth yn y byd, ond ni wyddai sut. Ar y cyd â’u ffrindiau, fe aeth y pâr ar siwrne a drawsnewidiodd sut roedd pethau’n cael eu gwneud, sut roedd pobl yn cael eu trin a phwy oedd yn cael dweud wrthych sut i fyw eich bywyd. Dyma oedd dechrau diwedd gofal sefydliadol a chychwyn Byw â Chymorth.
Twymgalon, doniol a theimladwy tu hwnt, mae Housemates gan Tim Green yn dod â’r stori wir ryfeddol yma o Gaerdydd yn fyw ar y llwyfan. Wedi’ berfformio gan gast o actorion-cerddorion niwrowahanol a niwronodweddiadol, mae Housemates yn byrlymu gydag egni ac yn cyffwrdd a’r galon. Ymunwch â’r Housemates y gwanwyn hwn am noson allan wych.
Bydd y perfformiadau ar 22 a 24 Chwefror yn Talwch Beth Fynnwch.
Bydd Tony Evans yn darparu dehongliad BSL yn y perfformiadau canlynol: 24 Chwefror; 3, 4, 5 Mawrth ac 8 Mawrth am 2yh.
Bydd Ellen Groves yn darparu Sain Ddisgrifiad ar 1 Mawrth am 7.30yh ac 8 Mawrth am 2yh.
Bydd Housemates yn teithio i Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth a Theatr y Torch, Aberdaugleddau ar ôl cyfod o berfformiadau yn Theatr y Sherman.
Canolfan y Celfyddydau Cymru, Aberystwyth: 27 – 29 Maw 2025
Thear y Torch, Aberdaugleddau: 02 – 04 Ebr 2025
Mae perfformiadau Housemates yn caniatáu sŵn a symud o fewn yr awditoriwm, yn ogystal ag ail-fynediad i unrhyw un sydd angen seibiant o’r perfformiad. Bydd ardal ymlacio ar gael a chlustffonau i amddiffyn clustiau os hoffech. Bydd goleuadau’r theatr bant yn ystod y perfformiad a bydd cerddoriaeth uchel yn ystod y sioe.
Cefnogir Housemates gan gyllid Cyngor Celfyddydau Cymru.