Theatr Ieuenctid y Sherman

Have Your Welsh Cake and Eat It

Crëwyd yn y Sherman Theatr

Ysgrifennwyd gan Davina Moss a Lowri Morgan

Cyfarwyddwyd gan Beca Llwyd

Archive

Adolygiad

25 - 27 Gorfennaf
Amrywiaeth

Gwybodaeth Bellach

  • Gofod: Stiwdio
  • Iaith: Saesneg
  • Hyd: Tua 1 awr

Ymunwch â ni am wledd sy’n cynnwys tamaid o drachwant, llwyaid fawr o actifiaeth a haenen ysgafn o hiwmor blasus. Dyma’r cynhyrchiad diweddaraf gan Theatr Ieuenctid y Sherman – ein grŵp theatr i bobl ifanc 8-18 mlwydd oed.

Pan fydd biliwnydd y ffatri gacennau leol yn penderfynu bod llenwi’i bocedi a chau’r ffatri yn fwy pwysig na dyfodol ei weithwyr mae storm yn codi… Ymunwch â’r Protestwyr Heddychlon a’r Radicaliaid Mentrus wrth iddynt ateb y gri a herio’r bobl fawr sydd am ddinistrio’u cymuned.

Mae’r ddrama newydd hon, a grëwyd yn arbennig ar gyfer ein pobl ifanc, yn cymryd golwg ddychanol ar drachwant cwmnïau corfforaethol. Bydd y plant wrth eu bodd â’r stori, a’r oedolion yn eu dyblau’n chwerthin. Dewch i greu atgofion melys gyda ni.

Gyda sgript a grëwyd ar y cyd rhwng Davina Moss a Lowri Morgan, bydd egni a brwdfrydedd ein hactorion ifanc yn dod â’r cymeriadau cyfarwydd yn fyw.

Byddwch yn rhan o’r stori. Ymunwch â’r protestwyr. Mwynhewch eich hun a dewch â’r teulu cyfan. Dyma Theatr Ieuenctid y Sherman ar ei gorau.