Polly Amorous a Esther Parade, Theatr y Sherman and Pleasance

Gŵyl Ymylol Caeredin: Polly & Esther

Comedi Theatr

Adolygiad

7.40yh

Prisiau

£8 - £15

Gwybodaeth Bellach

  • Lleoliad: The Green, Pleasance Courtyard, 60 Pleasance, Caeredin, EH8 9TJ
  • Hyd: 60 munud
Gwybodaeth Pwysig

Mae’r perfformiad yma yn cynnwys iaith gref, goleuadau sy’n fflachio, synau uchel a niwl.

Cabaret drag camp a chynhyrfus yng Ngŵyl Caeredin, wedi’i ysgrifennu a’i berfformio gan fam a merch eiconig o Gymru, Polly Amorous ac Esther Parade.

Ymunwch â Polly & Esther wrth iddynt lywio teulu dewisol, llencyndod, a brandiau anfad o iechyd perfedd probiotig drwy ddefnydd iogwrt braster isel – i gyd wrth weini c*nt rhwng-cenedlaethau!

Dathliad o hunanfynegiant, cyfuniad cwiar a llawen o ddrag, sioe gerdd a chabaret, a stori am ddod o hyd i deulu mewn mannau annhebygol.

“Taswn i’n adolygydd byddwn i’n rhoi chwe seren i hwn!” (Polly Amorous)
“Drag? Yn y Fringe? Dyma dorri tir newydd!” (Esther Parade)

Ysgrifennwyd gan Polly Amorous, Esther Parade, a Nerida Bradley, perfformiwyd gan Polly Amorous ac Esther Parade.

Cyflwynir gan y Pleasance a Theatr y Sherman fel rhan o raglen Partneriaethau Cenedlaethol Caeredin. Cefnogir gan Gyngor Celfyddydau Cymru/Celfyddydau Rhyngwladol Cymru drwy Gronfa Cymru yng Nghaeredin.

Cynnlunydd Set: Chloe Stoakes
Cynnllunydd Goleuo: El Higgins
Cynllunydd Sain: Ali Taie
Cyfarwyddwr Cerdd: Connor Fogel
Ymgynghorydd Hygyrchedd: Garrin Clarke
Rheolwr Llwyfan: Philippa Mannion
Cynllunio Graffeg: Nic Finch
Ffotograffiaeth: Kirsten McTernan
Cynhyrchwyr: Alice Rush & Frankie-Rose Taylor