Profiad dawns yn llawn cyffro
Dewch i ddianc i fyd yn llawn cyffro trwy wylio dwy ddawns gan Gwmni Dawns Cenedlaethol Cymru – profiad dawns cadarnhaol a gwirioneddol gelfydd.
AUGUST gan Matthew William Robinson
Wrth i’r haul fachlud, newidiodd popeth.
Machlud yr haul sydd wedi ysbrydoli AUGUST – gofod rhwng rheolaeth a rhyfyg. Gorffen a ffarwelio yw hanfod AUGUST. Y newidiadau sy’n ein dwyn ynghyd ac yn ein gwahanu.
Law yn llaw â lliwiau gwan y cyfnos a fflachiau neon y nos, mae AUGUST yn teithio trwy dirwedd synhwyraidd sy’n symud rhwng y peryglus a’r hardd.
Cydweithrediad artistig rhwng y coreograffydd Matthew William Robinson, y cyfansoddwr Torben Sylvest, y dylunydd George Hampton Wale, y dylunydd goleuadau Emma Jones ac artistiaid Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru.
Skinners gan Melanie Lane
Rydym yn byw mewn oes ddigidol. Rydym yn defnyddio hidlyddion i bylu realiti, a rhithffurfiau i guddio pwy ydym ni. Rydym yn siarad gyda Deallusrwydd Artiffisial, ac mae’r Deallusrwydd hwnnw yn siarad yn ôl gyda ni. Rydym yn gwegian ar ymyl dyfodol gwefreiddiol a dychrynllyd lle mae’r corff dynol yn camweithio rhwng cnawd a rhith, ffaith a ffuglen.
Y tu hwnt i’r ffantasïau a wireddir gan dechnoleg, erys ein dynoliaeth. Sut y gallwn ddychwelyd at y byd go iawn? Sut y gallwn ddychwelyd at ein croen, sy’n rhan annatod ohonom?
Mae Skinners gan Melanie Lane (coreograffydd o Awstralia o darddiad Ewropeaidd a Jafanaidd) yn cynnwys cerddoriaeth newydd gan y cyfansoddwr Yamila Rios, gwisgoedd gan Don Aretino a goleuadau gan y dylunydd Cymreig Ceri James.