Wedi'i ysbrydoli gan Hamlet gan William Shakespeare a dramâu eraill.
Mae Evie wedi blino ar Tinder, ac yn barod i roi’r gorau i gariad (a dynion) am byth, pan mae hi’n gwneud penderfyniad beiddgar. Mae hi’n mynd i ddod o hyd i arwyr rhamantus yn eu ffynhonnell: llyfrau. Mae Lowri Jenkins (Winners, Nova Theatre) wedi ysgrifennu ac yn perfformio’r ddrama newydd hynod ddoniol a gwyllt hon.
Ailfywiogi. Adfywio. Ailgysylltu. Ailddyfeisio.
Mae Golwg Gwahanol wedi’i ysbrydoli gan ddramâu a llyfrau clasurol, ac yn gasgliad o bedair drama fer newydd sy’n llawn bywyd. Mae pob drama yn 30 munud o hyd, ac yn eofn, yn llawn agwedd, hwyl ac ysbryd cyfoes. Mae Golwg Gwahanol wedi’i greu yn arbennig i’ch ailgysylltu chi â llawenydd theatr fyw. Ysgrifennwyd y dramâu gan griw nodedig o awduron Cymreig a rhai sy’n byw yng Nghymru, rhai yn brofiadol a rhai sy’n dod i’r amlwg. Mae Golwg Gwahanol yn adrodd straeon rhyfeddol a chyfareddol, yn delio â bywyd heddiw, yn rhoi lle i chi feddwl ymysg moroedd o emosiynau.