Gaz Oakley: Tales of the Homestead

Siaradwyr

Adolygiad

17 Mai 2025
7.30yh

Prisiau

£37 / £30.50

Gwybodaeth Bellach

  • Gofod: Y Brif Theatr
  • Iaith: Saesneg
  • Hyd: Tua 110 munud gan gynnwys egwyl

Ydych chi erioed wedi meddwl sut y gallai byw yn agosach at natur newid eich bywyd?

O fwytai cain i dyddyn yng nghefn gwlad Cymru, mae Gaz Oakley wedi bod ar daith ryfeddol a grymusol. Wedi’i ysbrydoli gan ei dad, dechreuodd Gaz fwynhau coginio yn ifanc, ac erbyn troi’n 15 oed roedd yn gweithio mewn cegin broffesiynol. Ar ôl treulio blynyddoedd yn gweithio yn y bwytai gorau ac yn wynebu heriau personol â’i iechyd, penderfynodd gymryd cam sylweddol tuag at ffordd o fyw yn seiliedig ar blanhigion, gan ail-gynnu ei angerdd at fwyd mewn ffordd hollol newydd.

Yn y sioe unigryw hon, cewch fynd ar daith bersonol gyda Gaz o amgylch ei ardd a fydd yn cynnig cipolwg o fywyd ar dyddyn a’i siwrnai ef o gyrraedd y fan hon. Bydd Gaz yn datgelu sut mae tyfu ei fwyd ei hun wedi trawsnewid ei goginio, yn ogystal â’i iechyd a’i bersbectif ar fywyd.

Gyda’ch gilydd, byddwch yn ystyried ffyrdd o fyw yn hunangynhaliol o ddydd i ddydd, y pleser a’r angenrheidrwydd o ddeall technegau fel cadw ac eplesu bwyd a meddyginiaeth lysieuol. Mae deall y dulliau hynafol hyn sy’n dathlu patrymau natur yn caniatáu i gynnyrch tymhorol ffynnu ymhell ar ôl eu cynaeafu, a hefyd yn gallu cael effaith uniongyrchol ar eich lles corfforol, meddyliol ac ysbrydol chi.

Ond mae byw ar dyddyn yn heriol hefyd. Bydd Gaz yn ystyried y gwersi caled sydd wedi dod i law wrth dyfu ei fwyd ei hun, a’r cyfan wrth werthfawrogi pa mor hyfryd ydy cydweithio’n ddyddiol â thir a chefn gwlad Cymru.

Gyda straeon am wytnwch, creadigrwydd, a pharch cry’ at natur, fe’ch gwahoddir i edrych yn fwy dwys ar athroniaeth planhigyn-i-blât Gaz.