Garrett Millerick Needs More Space

Comedi

Adolygiad

8 Tach 2024
7.30pm

Prisiau

£16.50

Gwybodaeth Bellach

  • Gofod: Stiwdio

Daw Garrett Millerick Needs More Space ag ‘optimist mwyaf blin’ comedi yn ôl i roi archwiliad doniol, gonest, ac ar y cyfan, ffeithiol, o deithio i’r gofod.

Yn ei awr fawr, mae Garrett yn archwilio ei fodolaeth hollol ddi-nod yn y bydysawd a hefyd y cyn lleied a wyddom am unrhyw beth, mewn gwirionedd.

Mae ei berfformiadau pwerus a’i ddawn o blethu profiadau personol gyda sylwebaeth gymdeithasol ddigri, tra hefyd yn osgoi pleidgarwch gwleidyddol, wedi gweld Garrett yn sefydlu enw da fel un o ddigrifwyr mwyaf heriol, gonest a gwreiddiol ei genhedlaeth. Mae Needs More Space yn argoeli i fod ei sioe fwyaf doniol eto wrth iddo edrych tua’r sêr i ddod o hyd i atebion i’n cymhlethdodau daearol.

Yn ogystal â’i berfformiadau byw, Garrett yw crëwr a seren cyfres comedi newydd y BBC Do Gooders gyda Frank Skinner, Ania Magliano ac Ahir Shah. Hefyd, yn ddiweddar fe’i gwelwyd yn perfformio ar sioe hwyrnos boblogaidd yr Unol Daleithiau Conan. Mae wedi’i argymell fel un o brif sioeau comedi Gŵyl Ymylol Caeredin am bedair blynedd yn olynol, ac mae ei dair sioe ddiwethaf wedi’u recordio a’u dosbarthu’n rhyngwladol gan label comedi UDA 800 Pound Gorilla Records.