“Alla i ddim â chredu y gall rhywbeth fel hyn ddigwydd yn y byd heb fanllefau o brotest. Mae’n ‘nafu fi, eto, fel mae e wedi fy ‘nafu yn y gorffennol, i weld pa mor ofnadwy y gallwn ganiatáu y byd i fod.”
Mawrth 2003. Lladdwyd Rachel Corrie – ymgyrchydd ifanc o America – gan darw dur Byddin Israel wrth geisio amddiffyn cartref Palestinaidd rhag ei ddymchwel.
Yn deillio o ddyddiaduron Rachel a’i e-byst adre at ei rhieni, dyma ddrama dirdynnol a hynod bersonol sy’n dilyn ei siwrnai o fywyd swbwrbaidd i ganol gwrthdaro Israel-Palestina. Wrth ddisgrifio’r creulondeb a’r dyngarwch mae hi’n ei weld yn Gaza, mae geiriau Rachel mor berthnasol nawr ag erioed ac yn galw arnom ni gyd i weithredu dros heddwch.
Wedi’i gyfarwyddo gan Steffan Donnelly a’i berfformio gan Hannah Daniel, dyma’r tro cyntaf i’r ddrama hon gael ei chyflwyno yn y Gymraeg gyda throsiad newydd gan Menna Elfyn. Mae’r tîm creadigol hefyd yn cynnwys Maariyah Sharjil fel Cynllunydd Set a Gwisgoedd, Kareem Samara fel Cynllunydd Sain ac Elanor Higgins fel Cynllunydd Goleuo.
Golygwd gan Alan Rickman a Katherine Viner.
Gyda cefnogaeth gan Galeri