Ein Llais 2025

Poetry Siaradwyr

Adolygiad

28 Mar 25
12.00am - 1.30am

Prisiau

Heb risg, ni all celf arloesi; ni all ddatblygu, ac ni all yr artist gyrraedd eu llawn botensial.

Bydd digwyddiad rhannu Ein Llais eleni yn noswaith ysbrydoledig o greadigrwydd a chysylltiad. Yno, bydd Aliyy Azad – derbynnydd Bwrsari Ein Llais – a’r awdur Krystal S. Lowe yn rhannu detholiad o‘u gwaith-ar-waith, gan gynnig cipolwg i mewn i’w teithiau creadigol.

Ar ddiwedd y noson, mae croeso i chi gymryd rhan yn ein sesiwn meic agored di-feic. P’un ai a ydych chi’n ysgrifennwr profiadol, neu dim ond newydd ddechrau, neu’n ysgrifennu er pleser yn unig, byddem wrth ein bodd yn clywed eich gwaith-ar-waith. Neu, os dymunwch, gallwch eistedd yn ôl, ymlacio, a mwynhau’r darlleniadau.

Dewch i wrando ar y straeon yng nghwmni pobl eraill, a mwynhau dishgled a danteithion melys. P’un ai a ydych chi’n rhannu eich gwaith eich hun, neu dim ond yn amsugno’r awyrgylch, mae digwyddiad Rhannu Ein Llais ar gyfer pawb. Rydyn ni’n edrych ’mlaen yn fawr at eich gweld chi yno!

Mae Bwrsari Ein Llais 2025 mewn partneriaeth â Theatr y Sherman.

Artistiaid digwyddiad Rhannu Ein Llais 2025:

Mae Aliyy Azad Malik yn awdur wedi eu lleoli yng Nghymru; mae’n mwynhau ymchwilio fel rhan o’r broses o ysgrifennu, gan ffocysu ar straeon am bobl, ysbrydolrwydd, ecoleg, a chymuned. Gan arbenigo mewn barddoniaeth a ffuglen, mae Aliyy yn datblygu eu hymarfer ysgrifennu mewn nifer o ffyrdd – o ysgrifennu ar deithiau trên i ymuno â grŵp awduron Cynrychioli Cymru Llenyddiaeth Cymru 2024/2025.

Gwaith-ar-waith Aliyy
Mae gan ddwy fenyw ifanc sydd mewn cariad hanes teuluol o oroesi’r Rhaniad rhwng India a Phacistan. Er nad ydynt yn meddwl am y Rhaniad yn aml, mae’r ddrama’n archwilio’r effaith ddi-droi’n-ôl a gafodd ar eu bywydau. Ar daith sydyn yn ôl i wlad eu cyndeidiau, cânt eu gorfodi i wynebu hanes eu teuluoedd a dyfodol eu perthynas.

Mae Krystal S. Lowe – a aned yn Bermuda ac sydd bellach wedi ymgartrefu yng Nghymru – yn awdur hunan-gyhoeddedig, bardd, ac awdur straeon byrion a sgriptiwr; mae ei gwaith yn archwilio themâu o hunaniaeth croestoriadol, iechyd meddwl a lles, a grymuso. Drwy ei gyrfa gynhwysfawr fel dawnsiwr a choreograffydd, mae hi wedi cael y pleser o blethu ei gwaith ysgrifenedig â symudiadau i greu gweithiau ar gyfer y llwyfan, gofodau cyhoeddus, a ffilm.

Gwaith-ar-waith Krystal
Dechreuodd A Woman At Rest fel cerdd a gomisiynwyd ar gyfer arddangosfa gydweithredol ar-lein ac mewn print yn archwilio bywydau artistiaid Du sy’n byw yn yr Alban a Chymru. Dros yr ychydig fisoedd diwethaf rwyf wedi datblygu’r gerdd hon yn fonolog sy’n archwilio disgwyliadau menywod, y modd maent yn derbyn poen a dioddefaint hir-dymor, a’r rôl mae pleser yn ei chwarae wrth i ni lawn sylweddoli ein pŵer a’n pwrpas yn y byd.

*Mewn dull gonest, mae A Woman At Rest yn rhannu meddyliau, ymdrechion, a thaith tuag at orffwys. Mae’n archwilio pleser rhywiol, gwersi a ddysgwyd o fyd natur, a chymhlethdodau benywdod.

Cynhelir digwyddiad rhannu Ein Llais 2025 ddydd Gwener 28 Mawrth, 6-7.30yh yn Theatr Sherman.

Ebostiwch literary@shermantheatre.co.uk i anfon RSVP nawr!