DYDDIAD NEWYDD YCHWANEGOL: Miles Jupp: On I Bang

Comedi
Archive

Adolygiad

2 Mai 2024
7.30yh

Gwybodaeth Bellach

  • Gofod: Y Brif Theatr
  • Iaith: Saesneg
  • Hyd: Tua 125 munud (yn cynnwys egwyl)

Dyddiad newydd ychwanegol oherwydd galwadau poblogaidd

Ers i Miles ddod i ben ei daith olaf yn y London Palladium yn 2017, bu yn The Full Monty ar Disney Plus, The Durrells a Why Didn’t They Ask Evans? ar ITV, yn ogystal â myrddiwn o benodau o Frankie Boyle’s New World Order a Have I Got News For You.

Gwnaeth gyfres radio arobryn a chyhoeddi nofel. Oni bai am Covid, chwaraesai brif ran yn yr RSC. O wel, fel’na mae hi. Serch hynny mae wedi gwneud drama yn y West End a chwarae Ymerawdwr Awstria ac Ewrop mewn ffilm gan Ridley Scott.

Ac eto, un diwrnod braf yng nghanol hyn i gyd, yn sydyn reit cafodd drawiad ar ei ymennydd. Yn sgil hyn cafwyd bod ganddo dyfiant maint tomato ceirios a bod gofyn llawfeddygaeth nerfol fawr yn ddiymdroi. Wrth reswm pawb, does ar neb eisiau gwneud môr a mynydd o’r peth ond ar ôl y profiad mae ganddo stori i’w hadrodd ac ambell i beth mae am ei rannu â’r stafell. Felly dyna’n union be mae’n ei wneud yn ei sioe newydd On I Bang – hanes syndod, ofn, lwc, cariad a meddygon cymwys.