Puccini: Gianni Schicchi
Respighi: La bela dormente nel bosco (Y Rhiain Gwsg)
Yn 2024 fe fydd hi’n 100 mlynedd ers marwolaeth un o gyfansoddwyr mwyaf poblogaidd opera’r Eidal, Giacomo Puccini, a bydd CBCDC yn nodi hyn trwy lwyfannu Gianni Schicchi, ei opera gomig un act, sy’n cynnwys ‘O mio babbino caro’, un o’r ariâu mwyaf poblogaidd y byd opera.
Yn fwy adnabyddus am ei gerddi tôn cerddorfaol epig fel Fountains of Rome a Pines of Rome, mae cerddoriaeth y cyfansoddwr Eidalaidd o’r ugeinfed ganrif, Ottorino Respighi, yn llawn syrpreisys, ac nid yw ei ddehongliad operatig o stori dylwyth teg oesol Charles Perrault, Y Rhiain Gwsg yn eithriad.
Cenir yn Eidaleg, gydag is-deitlau Cymraeg a Saesneg.
Arweinydd Carlo Rizzi
Cyfarwyddwr Caroline Clegg