Plymiwch i fyd o lofruddiaeth, chwant a dial gyda’r campwaith operatig tywyll hwn. Creodd Mozart, mewn cydweithrediad â’i libretydd gwych Lorenzo da Ponte, yr hyn a alwodd Wagner yn “opera o blith pob opera”.
Gyda dros 2,000 wedi’u swyno ganddo a llwybr o galonnau drylliedig i’w enw, mae Don Giovanni bellach yn wynebu ei her fwyaf eto. Wrth i’r stori hyrddio tuag at un o’r diweddgloeon mwyaf gwefreiddiol ym myd yr opera, mae’r Don yn meiddio wynebu’r meirw.
Byddwch yn barod am daith o swyn hudolus, perygl a’r dwyn i gyfrif eithaf o Ysgol Opera David Seligman CBCDC.