Mae gennym ni amrywiaeth ffantastig o weithdai, perfformiadau ac arddangosfeydd yma ar Ddydd Gwener 18 Awst ar gyfer ein Diwrnod Dathlu Cymunedol.
11.00yb – 3.00yp
Gweithgareddau galw heibio yn cynnwys: caligraffi Persiaidd, gweithgareddau crefft eco, arddangosfa ffotograffau a dangosiadau ffilm.
Perfformiadau gan gynnwys: Dawns Indiaidd, Goldies Cymru a gair ar lafar.
Bydd Goldies Cymru yn cynnig sesiynau cyd-ganu o ganeuon poblogaidd.
11.00yb
Adrodd Straeon gyda Ffotograffiaeth gyda Unify Creative
Dewch ymlaen i ddysgu sut i gymryd lluniau sydd yn rhannu eich stori.
Oedrannau 12+
Bydd nifer gyfyngedig o lefydd galw heibio ar gael ar y diwrnod.
11.00yb
Gweithdy Dawnsio Indiaidd clasurol gyda SamarpanNrithyalay
Dewch ymlaen i’r rhagflas i roi cynnig ar y ffurf gelfyddyd hardd hon.
Oedrannau 7 – oedolion
Bydd nifer gyfyngedig o lefydd galw heibio ar gael ar y diwrnod.
12.00yp
Adrodd Stori Cymraeg gyda Stacey Blythe
Ymunwch â ni ar gyfer chwedlau hudol sy’n cydblethu cerddoriaeth fyw telyn gyda storïau Cymraeg a Saesneg.
Oedrannau 7 – oedolion
Bydd nifer gyfyngedig o lefydd galw heibio ar gael ar y diwrnod.
12.00yp
Drymio Gorllewin Affrica gyda River Music
Ymunwch a’r rhagflas Drymio Gorllewin Affrica yma i roi cynnig ar ein drymiau djembes.
Oedrannau 7 – oedolion
Bydd nifer gyfyngedig o lefydd galw heibio ar gael ar y diwrnod.
12.10yp
Perfformiad dawns glasurol Indiaidd o Samarpan Nrithyalaya (rhwng 10 – 15 munud o berfformiad)
12.30yp
Mae United2Change yn cynnig perfformiadau diwylliannol Somaleg o eu pobl ifanc (rhwng 10 – 15 munud o berfformiad)
1.00yp – 2.30yp
Cinio am ddim
Fydd ystafell addoli dros dro ar gael
2.30yp
Perfformiad gan y gymuned Waulah
Mae Waulah Cymru yn cynrychioli cymuned o 500 o bobl dros sawl cenhedlaeth a ddaw o dreftadaeth Pacistanaidd, wedi’u diffinio mewn undod a chyfundod. Pleser yw dychwelyd i’r Sherman i berfformio unwaith eto, saith mlynedd ar ôl i ni lwyfannu Home; cynhyrchiad oedd yn archwilio gwreiddiau’r gymuned ym Mhacistan a’r twf yn ein teimlad o berthyn yng Nghaerdydd. Rydym wedi mwynhau myfyrio ar y profiad dwys hwnnw a pharhau gyda’n stori, drwy’r genhedlaeth iau, sy’n gyffrous i ystyried a dathlu eu cenedligrwydd deuol drwy berfformio, yn ogystal â’u cariad at bopeth criced!
2.45yp
Perfformiad Drymio Gorllewin Affrica gyda River Music (rhwng 10 – 15 munud o berfformiad)