Mae Darganfod Dawns yn berfformiad rhyngweithiol, hamddenol a llawn hwyl. Rhowch gynnig ar ddawnsio, yna gwyliwch y dawnswyr proffesiynol wrth eu gwaith.
Mae’r profiad awr o hyd yn berffaith ar gyfer theuluoedd.
Cewch gyfle i gynhesu’r corff gyda’n dawnswyr o’ch sedd, gofyn cwestiynau a dysgu rhai symudiadau o’r sioe.
Byddwch hefyd yn cael gwylio Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn perfformio Why are people clapping?! sy’n ymwneud â dychymyg a rhythm bywyd.
Mae’n brofiad creadigol a llon. Mae pobl ifanc yn gadael yn llawn brwdfrydedd, hyderus a chreadigol.