Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru

Under Milk Wood / Dan y Wenallt

Perfformiadau yn Gymraeg Theatr

Ysgrifennwyd gan Dylan Thomas

Cyfarwyddwyd gan Emma Baggott

Archive

Adolygiad

31 Awst – 2 Medi
7.30yh

Gwybodaeth Bellach

  • Gofod: Y Brif Theatr
  • Iaith: Cymraeg a Saesneg (gyda uwchdeitlau yn y ddwy iaith)
  • Hyd: 2 awr a 20 munud yn cynnwys egwyl
Gwybodaeth Pwysig

Mae’r perfformiad hwn yn cynnwys niwl.

Dyma gyfle i brofi stori Gymreig ddiamser ar ffurf newydd, wreiddiol.

Stiwdio recordio yng Nghaerdydd.

Mae technegwyr sain wrthi’n brysur yn gosod offer ar gyfer sesiwn recordio. Ond wrth i’r perfformwyr gamu at y meics, mae rhywbeth o’i le… pa fath o stori maen nhw am ei hadrodd?

Mae clasur Dylan Thomas wedi ei ail-ddychmygu ar gyfer lleisiau ifanc di-ofn Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru.

Mae’r addasiad Cymraeg a Saesneg newydd hwn yn cyfuno byd telynegol Llareggub, gyda Chymru gyfoes heddiw sy’n ferw o gerddoriaeth, meicroffonau a phedalau dolen. Mae’n gynhyrchiad sy’n arddangos brwdfrydedd a photensial cast o berfformwyr hynod dalentog.

Addasiad gan Mari Izzard
Yn seiliedig ar drosiad Cymraeg T James Jones
Cynllunydd: Elin Steele
Cyfarwyddwr Cysylltiol: Alice Eklund

Pob perfformiad yn cynnwys uwchdeitlau (Dyluniad fideo gyda uwch-deitlo creadigol integredig) yn Gymraeg a Saesneg
BSL a Sain Ddisgrifio: 31 Awst

Mae’r cynhyrchiad amatur hwn o “Under Milk Wood” (Y Fersiwn Terfynol) yn cael ei gyflwyno drwy ganiatad Concord Theatricals Ltd. ar ran Samuel French Ltd. www.concordtheatricals.co.uk