National Youth Theatre of Wales, Fio a Theatr Genedlaethol Cymru yn cyflwyno

Dal Gafael / Hold On

Ysgrifennwyd gan Mared Llywelyn a Steven Kavuma

Cyfarwyddwyd gan Dr Sita Thomas

Archive

Adolygiad

3 - 4 Medi 2024
Amrywiaeth o amseroedd

Gwybodaeth Bellach

  • Gofod: Y Brif Theatr
  • Iaith: Dwyieithog
  • Hyd: 90 munud heb egwyl
Gwybodaeth Pwysig

Nodwch fydd y perfformiad yma yn deilio gyda themâu o alar a cholled, gan gynnwys golygfeydd o drais a defnydd o niwl a mwg.

Mae ThCIC / Theatr Genedlaethol Cymru a Fio wedi ymuno â’i gilydd eleni i gyflwyno cynhyrchiad llwyfan newydd sbon gan ddau o ddramodwyr mwyaf ffres a chyffrous Cymru.

Mae Dal Gafael / Hold On gan Steven Kavuma a Mared Llywelyn yn gynhyrchiad dwyieithog gafaelgar, sy’n tystio i alwad person ifanc am well dyfodol gaiff ei lunio gan linach eu gorffennol.

Ymunwch â chast o 24 – yn cynnwys rhai o berfformwyr ifanc mwyaf talentog Cymru rhwng 16-22 oed ac wedi’i gyfarwyddo gan Dr Sita Thomas o Fio – ar gyfer stori dyner ac ingol am gyfiawnder hinsawdd a chwestiynu hunaniaeth.

Dehongliad BSL a sain ddisgrifiad: 4 o Fedi

Dehongliad BSL: Cathryn McShane

Capsyniau: Bydd perfformiadau i gyd i gapsiynau yn y Gymraeg a’r Saesneg.