Dau ddarn o waith dawns corfforol gwefreiddiol fydd yn cyflymu curiad eich calon.
WALTZ
gan Marcos Morau
Mae waltz atgofus yn chwarae yn y pellter. Allan o’r lludw daw cwlwm o greaduriaid gloyw i fyw mewn byd newydd. Yn y dryswch a’r cynnwrf eu hunig obaith yw parhau’n unedig.
Os wnaethoch chi fwynhau byd coreograffig trydanol Tundra yn 2017, mae hwn yn gyfle arall i brofi gwaith gan Marcos Morau, y coreograffydd arloesol o Sbaen.
SAY SOMETHING
gan Sarah Golding a Yukiko Masui (SAY)
Mae Say Something yn archwilio’r hyn mae’n ei olygu i ‘gynrychioli’, a’r disgwyliadau cynyddol i gael llais. Bydd y trac sain gan MC Zani a’r bîtbocswyr o Gymru, Dean Yhnell, yn cael ei berfformio’n fyw, a fydd yn gwneud y gwaith corfforol digyfaddawd hwn yn wledd gorfforol a sonig.
Mae gan SAY frwdfrydedd am gerddoriaeth sydd yn gwneud iddynt eisiau symud. Bydd Say Something yn gwneud i chi ysu i godi a dawnsio.
Ymunwch â CDCCymru am noson rymus o ddawns.
Os gwelwch yn dda nodwch bydd Say Something hefyd yn cael eu perfformio fel rhan o CYNULLIAD ar Dydd Gwener 12 Mai.
*Archebwch docynnau am PWLS a CYNULLIAD am bris cyfun o £28.00.
*Archebwch docyn pris uchaf safonol am PWLS a thocyn i GATHERING a bydd gostyngiad yn cael ei gymhwyso pan fyddwch chi’n gwirio.
Mae’r perfformiad yma yn cael eu sain ddisgrifio – gallwch wrando ar y daflen sain am y cynhyrchiad yma.