Cyflwynir gan SDJ Productions, datblygwyd yn wreiddiol ar gyfer BBC Radio 4, cyd-gynhyrchwyd gan Theatre Royal, Plymouth

Shôn Dale-Jones: Cracking

Theatr
Archive

Adolygiad

13 Tach 2024
7.30yh

Gwybodaeth Bellach

  • Hyd: Tua 75 munud
  • Gofod: Stiwdio
  • Iaith: Saesneg

Comedi newydd gan Shôn Dale-Jones

Stori wir wedi’i gwneud fyny yn gyfan gwbl

Mae mam Shôn yn 83 mlwydd oed ac yn aros am ganlyniadau profion nôl o’r ysbyty. Mae Shôn yn dychwelyd adref i Ynys Môn i ymweld â hi. I leddfu rhywfaint o bwysau, mae hi’n gofyn iddo dorri wy ar ei phen. O fewn eiliad, mae’r cyfan ar chwâl. Mae troliau o’r we yn ymddangos o’u blaenau ac yn rhoi gorchmynion i Shôn i beidio cam-drin ei fam a gadael yr ynys…

Dyma stori am gariad a chasineb sy’n dathlu sut mae chwilio am gysylltiad yn curo datgysylltiad. Mae CRACKING yn stori gomig, galonogol a dyrchafol am garu yn wyneb casineb.

Caru theatr arwyddocaol? Fydd Shôn Dale-Jones hefyd yn perfformio ei sioe glasurol The Duke yn yr un wythnos. Dewch i weld y ddwy sioe i gael 10% i ffwrdd o gyfanswm eich archeb. Yn amodol ar argaeledd, ni ellir cymhwyso’r cynnig yn ôl-weithredol, dim ond un gostyngiad fesul archeb.