CHOO CHOO! (Or... Have You Ever Thought About ****** **** *****? (Cos I Have))
Ewch ar daith gyda ‘CHOO CHOO!’ i feddwl sy’n gwrthod chwarae’n neis.
Beth os nei di frifo Duncan? Beth os nes di? Dwi’n siŵr y gallet ti. Dwi’n siŵr y gallet ti ‘neud. Dwi’n siŵr y byddi di yn.
Mae’r perfformiad dylanwadol hwn yn rhoi cipolwg gwirion a swreal ar anhwylder gorfodaeth obsesiynol, sy’n hynod o ddoniol ag yr un mor deimladwy. Mae CHOO CHOO! yn sioe am gyflwr sy’n cael ei gamddeall, wedi’i hadrodd gan bobl sy’n deall ychydig amdano.
Mae CHOO CHOO! yn rhan o raglen Partneriaethau Cenedlaethol Caeredin y Pleasance mewn cydweithrediad â’r Sherman.
StammerMouth
Mae StammerMouth yn gwmni theatr arobryn Brydeinig, a grëwyd gan Nye Russell-Thompson. Ganed ei ffugenw StammerMouth o’r rheidrwydd i bobl ddeall sut deimlad yw cael atal dweud, trwy gwyro ag hiwmor hunanymwybodol, minimaliaeth lom, a chyfranogiad y gynulleidfa (mae’n hoff o wneud i chi deimlo mor anghyfforddus a deimlodd e yn ifanc). Mae StammerMouth yn defnyddio’r Model Cymdeithasol o Anabledd i ymgorffori hygyrchedd fel arf greadigol gynhenid, megis Iaith Arwyddion Prydain, Lleferydd-i-Destun a Disgrifiad Sain. Mae StammerMouth ar flaen y gad ym myd theatr gyfoes, gan gydweithio gyda gweithwyr llawrydd proffesiynol i greu gwaith sy’n siarad am bynciau sy’n anodd trafod.