Daw’r geiriau yn y ddrama hon yn drwchus ac yn gyflym, mewn rhythm ac odl, wedi’u cyflwyno fel gwn peli paent yn paentio tirwedd amryliw o balet sy’n llwm, yn onest, yn amrwd, yn gyffrous, yn llawn egni ac yn ddiwyro yn ei fwriad i siarad y gwir â grym
Mae Chat Back yn ymwneud â’r isddosbarth – yr holl bobl ifanc hynny sydd mor ‘ddrwg’, wedi’u dadrymuso, wedi’u dieithrio, wedi’u halltudio, ac wedi’u gadael – ac hyd yn oed ar ddiwrnod olaf yr ysgol, mae’n nhw’n ffeindio eu hunain yn atalfa.
Rydyn ni’n cael cipolwg ar fywydau pob unigolyn (dros benwythnosau’r gwyliau haf) wrth iddyn nhw fynd o gwmpas y rhwystrau a ceisio darganfod eu hunaniaeth, eu pŵer economaidd neu diffyg hyn, eu deheurwydd telynegol neu diffyg hyn, ac ystyr eu bywydau yn cael eu datgelu trwy eu chwantau, eu gobeithion a’u hofnau.