Carwyn

Drama

Ysgrifennwyd gan Owen Thomas

Cyfarwyddwyd gan Gareth John Bale

Archive

Adolygiad

17 - 19 Hyd 2023
7.30yh

Gwybodaeth Bellach

  • Gofod: Stiwdio
  • Hyd: Tua 1 awr a 15 munud

Mae’n 40 mlynedd eleni ers marwolaeth Carwyn. Credwn ei fod yn bwysig clywed ei hanes unwaith eto.

Y cynhyrchiad gwreiddiol Theatr Torch
Cyflwynwyd gan Bale a Thomas mewn cysylltiad â Theatr Felinfach, Theatr Torch a Theatrau RCT

Dyma ddrama am fywyd Carwyn James – dyn cymhleth iawn ac aml-ochrog. Dyn o flaen ei amser. Dyn poblogaidd ond unig. Enigma. Ychydig iawn oedd yn nabod y Carwyn go iawn a beth oedd yn ei gyffroi a’i gynhyrfu. Fe wnaeth Carwyn argraff arbennig ar ei wlad a’r iaith Gymraeg yn ystod ei fywyd. Gwladgarwr a oedd yn addoli chwaraeon, diwylliant a gwleidyddiaeth. Hyfforddwr a faeddodd y Crysau Duon gyda tri gwahanol tîm. Gellir dadlau ein bod ni wedi anghofio am Carwyn. Mae’r ddrama yma yn archwilio dyn a oedd yn fwy na cymeriad ym myd rygbi. Athro, sylwebydd, hyfforddwr ag ysbïwr hyd yn oed.

Mae Simon Nehan yn creu perfformiad un-dyn anhygoel fel yr athrylith, Carwyn James.

Cynllunydd: Tegan Reg James
Cynllunydd Golau: Ceri James

Dehongliad BSL gan Tony Evans ar Hydref 19