Mae Caitlin Moran yn ôl i drafod ei llyfr newydd – a’r tro hwn, y dynion sy’n cael sylw!
Dros y deng mlynedd diwethaf, bob tro mae Caitlin wedi bod yn cynnal digwyddiad, neu gyfweliad – yn siarad am ferched – ar ryw adeg, bydd rhywun yn siwr o ofyn, “Ond, Caitlin – beth am ddynion?” Ac ar y dechrau, fel twpsyn, dywedai hi, “Be’ amdanyn nhw? Mae nhw’n iawn. Ond i Dîm y Bronnau rydwi’n perthyn.”
Ond nawr – ar ôl degawdau o anhapusrwydd gwrywaidd cynyddol, salwch meddwl, unigrwydd, methiant academaidd, a radicaleiddio dynion ifanc ar-lein – ynghyd â’r ffaith fod trowsusau dynion modern mor dynn, eu bod nhw’n edrych fel legins – mae Caitlin wedi sylweddoli: oes. Mae problem yma. Na, nid “tric ffeministaidd” mo hwn. Rydyn ni’n wirioneddol bryderus amdanoch chi. Wedi’r cyfan, y rheswm fod merched, gwragedd a mamau yn anhapus yn aml, yw bechgyn a dynion anhapus. Ac mae rhai pethau y mae merched wedi’u dysgu ar hyd y ffordd – bod yn aruthrol o onest am eich ofnau a’ch problemau, gwneud jôcs amdanyn nhw, ac yna rhoi cynnig ar newid y byd – sy’n teimlo’n ddefnyddiol ar hyn o bryd. Yn 2023 mae gwir angen inni ofyn y cwestiwn, “Beth am ddynion?
Dewch i ymuno ar ddechrau sgwrs newydd, bwysig, sydd hefyd yn aml yn ddoniol – a dewch â’ch gwŷr, tadau, meibion, brodyr, neiaint, cariadon a ffrindiau gorau gyda chi. Pornograffi, trais, Star Wars, bod yn dad, rhyw, tynnu coes, Andrew Tate, cimychiaid Jordan B Peterson, a beth sy’n dda mewn gwirionedd am wrywdod: byddwn yn trafod y cyfan.
Rydyn ni’n well gyda’n gilydd.
Mae opsiwn i gael llyfr a thocyn, a bydd sesiwn llofnodi llyfrau ar gyfer y rhai sy’n dewis hyn neu’n prynu’r llyfr ar y noson.