Byth Bythoedd Amen

Perfformiadau yn Gymraeg Theatr
Archive

Adolygiad

25 - 31 Ion 2025
7.30yh

Gwybodaeth Bellach

  • Gofod: Stiwdio
  • Iaith: Cymraeg (gyda chapsiynau yn Gymraeg ac yn Saesneg)
  • Hyd: 1 awr a 10 munud heb egwyl
Gwybodaeth Pwysig

Yn cynnwys iaith gref gan gynnwys rhegi, termau hen ffasiwn am bobl anabl a thermau ableddol sarhaus; cyfeiriadau at gyffuriau, marwolaeth, galar, themâu oedolion; a gallai rhai golygfeydd beri gofid i aelodau o’r gynulleidfa. Cliciwch fan yma i ffeindiwch mas mwy.

“Ma bywyd yn brutal. Ond mae’n gallu bod yn biwtifful hefyd.”

Pop glas, Jäger bombs a sgrolio Tinder.

Gweiddi chwil a karaoke yw curiad y ddinas.

Strydoedd yn llawn “livin’ for the weekend”…

Mae Lottie ar noson allan sy’n wahanol i bob noson allan gynt. Wrth i’r noson hwyrhau a Lottie’n ymgolli yn ei hatgofion, mae’r ffin rhwng realaeth a dychymyg yn chwalu ac mae’n cychwyn ar daith o faddeuant, hunan-ddarganfod a dawnsio fel bod neb yn edrych!

Yn ddinesig, yn ddoniol ac yn dywyll, dyma ddrama newydd gan Mared Jarman am gariad, colled a bywyd fel pobl ifanc anabl mewn byd sy’n blaenoriaethu’r brif ffrwd. Bydd Mared – sy’n llais newydd a chyffrous i fyd y theatr Gymraeg – hefyd yn ymddangos fel Lottie, ochr yn ochr â’i chyd-actor Paul Davies, dan gyfarwyddyd Rhian Blythe.

Mae’r seddi yn y Stiwdio heb eu cadw. Mae Dewiswch Eich Pris yn caniatáu chi i ddewis faint hoffwch chi dalu ar gyfer eich sedd.

Nodwch fydd perfformiad ar 31 o Ionawr yn cael eu ffilmio ar gyfer rhesymau archif.