Music Theatre Wales

Bwystfilod Aflan

Dawns Opera Perfformiadau yn Gymraeg

Hygyrch

  • Wed 9 Oct - 7:30pm Captioned
  • Wed 9 Oct - 7:30pm Cymraeg

Adolygiad

9 Hyd 2024
7.30yh

Prisiau

£20, Consesiynau £2 i ffwrdd, Dan 25 oed Hanner Pris

Gwybodaeth Bellach

  • Gofod: Stiwdio
  • Iaith: Perfformwyd yn y Gymraeg, gyda chapsiynau yn Saesneg.

“Yn gweddu yn well i Sodom a Gomorah nag I Gymru”

Gwynebodd Edward Prosser Rhys storom o sarhad am y darluniau o ryw, chwant, arhamant hoyw yn ei gerdd goronog, ATGOF, ar adeg pan oedd bod yn hoyw yn anghyfreithlon. Bydd Bwystfilod Aflan yn archwilio’r digwyddiadau hyn trwy lens gyfoes, gyda monolog operatig gan Conor Mitchell, creawdwr yr hynod lwyddiannus Abomination: A DUP Opera, i’r tenor Elgan Llŷr Thomas; ac ymateb personol i’r gerdd wreiddiol gan yr actor/dawnsiwr Eddie Ladd; y ddau wedi’u cyfarwyddo a’u cyd-greu gan Jac Ifan Moore.

Mae’r comisiwn hwn gan yr Eisteddfod Genedlaethol gyda Music Theatre Wales a Chanolfan Gerdd Prifysgol Aberystwyth, ac offerynwyr o Sinfonia Cymru, yn herio normau cymdeithasol trwy opera, dawns, a ffilm, gan dynnu sylw at y gwrthdaro rhwng traddodiad a’r angen am newid.