Theatr Iolo yn cyflwyno

Baby, Bird & Bee

Teulu

Ysgrifennwyd gan Sarah Argent a Kevin Lewis

Cyfarwyddwyd gan Sarah Argent a Kevin Lewis

Hygyrch

  • Fri 23 May - 11:00am Audio Described
  • Fri 23 May - 1:00pm Audio Described

Adolygiad

23 a 24 Mai 2025
Amrywiaeth

Prisiau

£10 (1 oedolyn ac 1 babi) Gallwch brynu tocynnau oedolyn/babi ychwanegol am £5 drwy ffonio'r Swyddfa Docynnau

Gwybodaeth Bellach

  • Gofod: Stiwdio
Gwybodaeth Pwysig

Os hoffech fanylion am yr hyn i’w ddisgwyl, cliciwch yma. Cyfyngiad Oedran:Babanod o 6 – 18 mis yn unig.

Dewch i ymlacio gyda’ch babi tra bod y garddwr yn brysur wrth ei waith yn plannu hadau ac yn dyfrio’r ardd brydferth.

Yn fuan bydd aderyn, gwenynen ac wrth gwrs y babanod yn gwmni hyfryd i’r garddwr hapus. Gyda’ch gilydd byddwch yn darganfod golygfeydd a synau’r ardd a bydd eich rhai bychain wrth eu boddau!

Ar ddiwedd y sioe bydd cyfle i chi a’ch babi aros i chwarae gyda gwrthrychau sydd wedi’u dewis yn arbennig.

Mae Sarah Argent a Kevin Lewis yn wneuthurwyr theatr arobryn sydd wedi creu nifer o sioeau hudolus ar gyfer babanod. Mae ganddynt ddawn arbennig o ddal sylw ac adlonni babanod a phlant ifanc.

Perfformir Baby, Bird & Bee yn Saesneg a pherfformir Babi, Aderyn a’r Wenynen yn Gymraeg. Os ydych chi’n dysgu Cymraeg neu’n awyddus i ddysgu ambell i air Cymraeg newydd gyda’ch babi/babanod mae Babi, Aderyn a’r Wenynen yn ffordd berffaith o gyflwyno’r iaith i rai bychain.

Cyfyngiad Oedran:Babanod o 6 – 18 mis yn unig. Cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau os hoffech archebu ar gyfer oedolyn ychwanegol, babi ychwanegol (ee. efeilliaid) neu fabi hŷn na 18 mis.