Profwch ysgrifennu beiddgar gan leisiau newydd cyffrous.
Ein Arddangosfa o Ysgrifennu Newydd yw penllanw’r gwaith y mae ein grwpiau awduron wedi ei gyflawni dros y flwyddyn ddiwethaf.
Bu 16 o awduron yn cymryd rhan, gan weithio yn y Gymraeg (Cylch Sgwennu’r Sherman) ac yn Saesneg (Sherman Writers Group). Mae’r awduron a ddewiswyd yn hanu o bob rhan o’r wlad, o Ogledd i Ganolbarth Cymru, ac i’r De, ac yn cynrychioli ystod amrywiol o brofiadau bywyd.
Dewch i weld gwaith ysgrifennu sy’n torri tir newydd yn y Stiwdio fis Chwefror.
Arddangosfa 2 (8:15yh)
Face the Fax gan Tom Price
Olwen gan Mari Izzard
Fallow gan Natasha Kaeda
Zeta gan Paisley Jackson
Clychau gan Bethan Davies
The Dying of the Light gan Ciaran Fitzgerald
Chili (cig eidion neu fegan) ar gael i archebu ymlaen llaw am £7.50 pan yn archebu eich tocynnau. Bydd hyn yn cael ei weini o 7.15yh-8.15yh rhwng y ddau arddangosfa.Chill gyda nachos a chaws:
Chili cig eidion
neu
Chili Fegan (gyda chaws fegan)
£7.50
Bydd y chili yn cael ei weini rhwng 7.15yh – 8.15yh. Os hoffwch cael eich chili cyn yr arddangosfa cyntaf (6.00yh) os gwelwch yn dda cysylltwch y Swyddfa Docynnau i ddymuno hyn. I cael eich chili os gwelwch yn dda cyflwynwch eich derbynneb yn y bar.
Bydd y chili hefyd ar gael i archebu ar y diwrnod.
Nôl ym mis Tachwedd 2021 cyhoeddodd Theatr y Sherman eu Cylch Sgwennu a’r Writers Group, a ddaeth ynghyd drwy’r Adran Lenyddol; Branwen Davies ac Alice Eklund. Bu’r 16 awdur yn rhan o raglen ddatblygu naw mis o hyd yn y Gymraeg a’r Saesneg. Fe wnaeth y fenter bwysig hon feithrin a chefnogi’r awduron wrth iddynt gyflwyno syniadau cychwynnol ar gyfer drama a’u datblygu yn ddrafft terfynol. Dros y naw mis, bu’r awduron yn gweithio’n agos gyda’r Adran Lenyddol, y Cyfarwyddwr Artistig Joe Murphy, yn ogystal ag awduron gwadd a gynhaliodd sesiynau wyneb yn wyneb ac ar-lein.
Mae’r awduron a ddewiswyd yn hanu o bob rhan o’r wlad o’r Gogledd i Ganolbarth Cymru, ac i’r De ac yn cynrychioli ystod amrywiol o brofiadau bywyd. Yr awduron fu’n rhan o’r Cylch Sgwennu yw: Ceri Ashe, Bethan Davies, Mari Izzard, Gareth Evans-Jones, Bethan Jones, Rhiannon Lloyd Williams, Wyn Mason a Kallum Weyman. Y rhai fu’n rhan o’r Writers Group oedd: Tess Berry-Hart, Emma Cooney, Laura Dalgleish, Ciaran Fitzgerald, Paisley Jackson, Natasha Kaeda, Tom Price a Dan Tyte.
Mae’r fenter hon wedi dod â ni at ddigwyddiad arbennig i gyflwyno detholiadau o’r dramâu a grëwyd gan yr awduron hynny. Yn ystod y noson byddwch yn clywed 12 o’r dramâu a ddatblygwyd gennym yn ystod y prosiect. Bydd cymysgedd o ddarnau Cymraeg, Saesneg a dwyieithog. Bydd y perfformiadau yn ddarlleniadau sgript mewn llaw a gyfarwyddwyd gan Alice Eklund a Matthew Holmquist (Red Oak Theatre). Red Oak Theatre yw Cwmni Preswyl Theatr y Sherman a gallwch ddarllen isod am y gosodiadau a fydd yn cael eu harddangos yn y Sherman drwy’r cyfnod.
Mewn partneriaeth ag Arddangosfa Cylch Sgwennu Theatr y Sherman, mae Red Oak Theatre a CBCDC yn cyflwyno cyfres o osodiadau gan y dylunydd Llew Morgan. Gwnaed y tri gosodiad mewn ymateb i’r dramâu a byddant yn cael eu cyflwyno fel rhan o’r sioe yng Nghyntedd y Sherman yn y cyfnod cyn y digwyddiad ac ar ei ôl. Mae pob un o’r gosodiadau yn rhyngweithiol ac yn rhoi cyfle i gynulleidfaoedd wrando ar ddetholiadau gan yr awduron, gan annog y cyhoedd i gamu’n llythrennol i fyd y dramâu ac ymgolli ynddynt.