“Ella dw i’n ray ffysi. Ond dw i jest rioed ‘di ffeindio ‘Yr Un’. I fod yn onest, dw i’n ffeindio dynion yn rili, rili annoying.”
Croeso i fyd Ani. Ffeminist, cyfreithwraig, chwaer, modryb, merch. A mam?
A hithau’n sengl, ac er gwaethaf cyngor ei theulu, mae Ani’n penderfynu defnyddio sperm bank i gael babi. Efallai mai dyma’r union beth sydd ei angen i ddod â’i theulu cymhleth yn ôl at ei gilydd!
Ond yna mae’r pandemig yn taro. Yn fam newydd, sengl, mae Ani’n sydyn yn gaeth i’w chartref efo babi sy’n crio’n ddi-baid, ac mae ei bywyd wedi dod i stop. Mae hi bellach yn boddi mewn byd llawn Peppa Pinc a fformiwla, ac mae’n cyfri’r oriau nes bydd hi’n ‘gwin o’r gloch’. ’Tydi bod yn rhiant ddim yr hyn roedd hi’n ei ddisgwyl o gwbl.
Drama newydd, ddoniol a thyner gan Rhiannon Boyle am hunaniaeth, colled, cariad a pherthyn, ac am fod yn fam ac yn rhiant sengl yn y byd sydd ohoni.