ANDY ZALTZMAN – THE ZALTGEIST

Comedi

Adolygiad

Dydd Gwener 17 Ionawr, 2025
7.30yh

Prisiau

£19

A ninnau bellach 2.5% o’r ffordd drwy’r trydydd mileniwm, mae Andy Zaltzman, un o ddigrifwyr dychanol mwyaf blaenllaw Prydain, yn asesu cyflwr y Ddaear a’i rhywogaeth enwocaf a mwyaf dadleuol – yr hil ddynol.

Ar daith fwyaf ei yrfa, bydd Andy’n ceisio llunio atebion lled-gredadwy i gwestiynau bythol fel Beth?, Pwy?, Ble?, ac yn fwy na dim, Pam?

Fel cadeirydd The News Quiz ers 2020, mae Andy’n cyfrannu ei frand dyfeisgar o gomedi ddychanol i brif sioe gomedi gyfoes Radio 4 y BBC, gan helpu’r sioe i ennill sawl gwobr, clod y beirniaid, a chynulleidfa gynyddol o wrandawyr.

Mae Andy’n cyflwyno The Bugle, un o bodlediadau comedi hynaf a mwyaf hoffus y byd, ers 2007 (gyda John Oliver tan 2015, a gyda sawl cyd-gyflwynydd o gyfandiroedd amrywiol ers 2016). Mae The Bugle, sy’n adnabyddus am ei gymysgedd unigryw o ddychan materion cyfoes a nonsens o’r radd flaenaf, ac sydd â channoedd ar filoedd yn gwrando ledled y byd, bellach wedi rhyddhau dros 600 o benodau ac wedi cael tua 100 miliwn o lawrlwythiadau.

Yn ddi-os, mae Andy gyda’r gorau ar y rhestr un-person o Ddigrifwyr Dychanol Sydd Hefyd Yn Ystadegwyr Criced Proffesiynol. Ers 2016, mae’n aelod allweddol o dîm Test Match Special, gan gynnig ei gyfuniad unigryw o wybodaeth, arbenigedd, hiwmor a chwilfrydedd am rifau i ddarllediad criced chwedlonol y BBC.

Mae wedi teithio yn UDA, India ac Awstralia, wedi ysgrifennu llyfr am argyfwng economaidd 2008, a bydd yn ymddangos yn neunawfed gyfres Taskmaster yn hydref 2024.

“outright hilarious… beautifully formed.” Dominic Maxwell, The Times ★★★★

“Andy Zaltzman has revitalised the News Quiz… fizzes with a vitality and sense of fun that’s rare in such topical comedy warhorses.” Steve Bennett, Chortle

“The Bugle: Silliness and laughter… Zaltzman is a sharp writer and an excellent satirist who combines political observation with daft whimsy.” Fiona Sturges, Financial Times