Bydd myfyrwyr o Academi Llais a Chelfyddydau Dramatig Cymru (WAVDA) yn cyflwyno sioe gerdd lwyddiannus Mal Pope, Amazing Grace, sy’n adrodd hanes difyr Evan Roberts a’i arweinyddiaeth yn Niwygiad Crefyddol Cymru 1904.
Gydag Angharad Lee yn cyfarwyddo, mae’r sioe gerdd yn trafod hanes Evan a’i weinidogaeth fel y’i hadroddir trwy lygaid yr ymgyrchydd heddwch a newyddiadurwr y Sunday Times, W T Stead, a fuodd yn ymweld â Chymru yn ystod anterth y Diwygiad i gyfweld Evan.
Dewch i brofi darn o hanes Cymru gyda chefnlen o gerddoriaeth a geiriau ysbrydoledig Mal Pope, ynghyd ag ambell emyn Cymreig adnabyddus.