Mae’r podlediad gomedi llwyddiannus am droseddau go iawn yn mynd ar ei thaith fwyaf hyd yn hyn!
I ddathlu deng mlynedd o drafod llofruddiaeth, rhannu llawer gormod, a dilyn trywydd hollol groes i’r pwnc, mae Kiri a Rachel ar daith i rai o’u hoff leoliadau yn eu hoff ddinasoedd. Bydd y ddwy digrifwr stand-yp, di-flewyn-ar-dafod sydd ar flaen y gad yn eu maes yn cynnal noson i drafod llofruddion cyfresol, gor-wisgo, gyda’r posibilrwydd o athrod hefyd. Chwedlonwyr, dewch ynghyd!
Cyflwynir gan Berk’s Nest mewn cydweithrediad â PBJ Management.