A Midsummer Night’s Dream

Crëwyd yn y Sherman Theatre

Ysgrifennwyd gan William Shakespeare

Cyfarwyddwyd gan Joe Murphy

Archive

Adolygiad

14 - 29 Hyd
Amseroedd amrywiol

Gwybodaeth Bellach

  • Gofod: Y Brif Theatr
  • Iaith: Perfformiwyd yn Gymraeg a Saesneg. Perfformir yn Gymraeg a Saesneg. Bydd uwchdeitlau Saesneg ar gyfer y ddeialog Gymraeg.
  • Hyd: Tua 2 awr 40 munud
Gwybodaeth Pwysig

Yn cynnwys iath gref, goleuadau sy’n fflachio, synau uchel, a themâu aeddfed. Darganfyddwch fwy.

Hud. Llawenydd. A chwerthin lond eich bol...

Yn y ddinas batriarchaidd, fe ddywedir wrthych pwy mae hawl gennych ei garu. Mae Hermia yn caru Lysanna ond yn cael ei gorfodi i briodi Demetrius. Tra bod Helena, ffrind Hermia, yn addoli Demetrius yn gyfrinachol. Drwy ddianc i’r coed, daw pedwar person ifanc o hyd i fyd heb reolau, lle mae unrhyw beth yn bosib.

Beth allwch chi ei ddisgwyl wrth wylio A Midsummer Night’s Dream?
Mae A Midsummer Night’s Dream yn cynnig noson hwyliog, hudolus sy’n llawn emosiwn – rydym i gyd angen noson fel hon yn y theatr ar hyn o bryd. Bydd ein cynhyrchiad newydd o gomedi glasurol Shakespeare yn siwr o godi eich calon.

Popeth sydd angen i chi ei wybod am A Midsummer Night’s Dream:

Un o ddramâu mwyaf poblogaidd Shakespeare gyda hud Cymreig ychwanegol
Mae ein cynhyrchiad o A Midsummer Night’s Dream yn trawsnewid y campwaith hwn yn brofiad dwyieithog cyfoethog. Mae’r awduron Mari Izzard a Nia Morais wedi ysgrifennu addasiadau Cymraeg newydd ar gyfer y tylwyth teg, a chymeriadau eraill sy’n cael eu swyno gan y tylwyth teg. (Bydd y ddeialog Gymraeg yn cael ei uwchdeitlo fel rhan o’r cynhyrchiad ym mhob perfformiad).

Mae cast eithriadol o wynebau newydd a chyfarwydd yn serennu
Mae’r cast yn cynnwys talent newydd cyffrous o Gymru ochr yn ochr ag ambell wyneb a fydd yn gyfarwydd i gynulleidfa reolaidd y Sherman.

Noson sy’n wirioneddol ddoniol
Wrth ystyried pa ddrama glasurol i’w pherfformio yn y Prif Dŷ yn yr Hydref, y gyntaf ers y pandemig, nid oeddem yn credu fod drama well na A Midsummer Night’s Dream er mwyn cynnig noson llawn hwyl i’n cynulleidfaoedd. Rydyn ni’n credu mai’r gomedi hynod boblogaidd hon yw’r tonic sydd ei angen arnom ni i gyd yr hydref hwn.

Mae’r cyfan yn ymwneud â chariad
Mae ein cynhyrchiad yn ddathliad o gariad ymhob ffurf ac mae’r neges yn syml: carwch pwy bynnag rydych chi eisiau ei garu.

Wyt ti’n meddwl dy fod yn adnabod A Midsummer Night’s Dream? Meddylia eto.
Mae gan ein cynhyrchiad yr holl hud a chomedi sydd i’w ddisgwyl mewn cynhyrchiad o A Midsummer Night’s Dream, ond os ydych chi wedi gweld y ddrama o’r blaen rydyn ni’n meddwl y bydd ein addasiad ni’n gwneud i chi feddwl yn wahanol amdani.

 

Rydym yn argymell bod unrhyw un sy’n dymuno gwneud defnydd o’r uwchdeitlau Saesneg sydd yn ymddangos uwchben y llwyfan i eistedd yn Row C i Row P

Bydd aelodau o grŵp theatr y Sherman nad ydynt yn broffesiynol, Sherman Players, yn ymuno â’r cwmni fel Mechanicals. Gallwch gweld yr trefnlen perfformiadau fan hyn.

 

Mae pris popeth fel petai ar gynnydd ar hyn o bryd, ac rydyn ni eisiau sicrhau bod cost tocynnau o fewn cyrraedd cymaint o bobl â phosib:

  • Gall plant a phobl Dan 25 weld A Midsummer Night’s Dream am hanner pris.
  • Gall 2 Oedolyn a 2 Blentyn weld A Midsummer Night’s Dream o lai na £50 (yn amodol ar argaeledd).
  • Rhannwch gost eich tocynnau ar gyfer y sioe yn ddau daliad hafal, gydag un taliad wrth archebu a’r llall wythnos cyn y perfformiad.

Ffoniwch 029 2064 6900 i ddysgu mwy (ar gael i archebion o £20 neu fwy).

Cast
Tîm Creadigol